Abstract
Dros y degawdau diwethaf gwelwyd nifer o lywodraethau is-wladwriaethol ar draws Ewrop yn datblygu rhaglenni polisi er mwyn ceisio adfywio rhagolygon ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol. Yn arwyddocaol, rhoddwyd y rhaglenni polisi hyn ar waith yn ystod cyfnod o drawsnewid cymdeithasol pellgyrhaeddol. Bellach, mae cymdeithasau gorllewinol yn fwyfwy unigolyddol, amrywiol a symudol; mae eu heconomïau yn fwyfwy rhyng-gysylltiedig; ac mae eu strwythurau llywodraethol yn fwyfwy cymhleth, gan gwmpasu ystod eang o actorion gwahanol. Amcan yr ymchwil hwn oedd canfod i ba raddau mae goblygiadau newidiadau o'r fath wedi effeithio ar gynnwys strategaethau diweddar i hybu’r Gymraeg a’rAeleg (1999-2015). Casgliadau’r ymchwil yw taw cyfyng iawn yw’r ystyriaeth a roddwyd, hyd yn hyn, i oblygiadau'r ystod o newidiadau sydd bellach yn dylanwadu ar sut mae pobl yn byw eu bywydau, yn ymwneud â’i gilydd, ac yn sgil hynny, yn defnyddio iaith. Mae’r ymchwil felly yn codi cwestiynau pwysig ynglŷn â chyfeiriad ac addasrwydd yr ymdrechion adfywio iaith cyfredol yng Nghymru a’r Alban.
Translated title of the contribution | Language Revival and Social Change: Evaluating Language Strategies in Wales and Scotland |
---|---|
Original language | Welsh |
Place of Publication | Aberystwyth |
Publisher | Prifysgol Aberystwyth | Aberystwyth University |
Number of pages | 6 |
Publication status | Published - Sept 2016 |