Abstract
Mae’r papur hwn yn ceisio rhoi cyfrif am yr amrywio ieithyddol ymhlith siaradwyr Cymraeg ardal Treorci yng nghwm Rhondda Fawr ar ddiwedd yr 1970au. Gwneir hyn drwy ddefnyddio ac addasu dulliau sosioieithyddol a ddatblygwyd gan arloeswyr yn y maes, yn enwedig William Labov.
Dechreuir drwy roi disgrifiad ffonolegol clasurol o Gymraeg y siaradwyr brodorol a recordiwyd. Ond wedyn eir ymlaen i archwilio’r berthynas rhwng yr amrywio ‘rhydd’ a nodwyd yn iaith y siaradwyr, e.e. rhwng /ɑ/ ac /æ/ mewn geiriau fel ‘mân’ a ‘bach’, drwy gysyniad y newidyn ieithyddol a’r rhwydwaith cymdeithasol.
Ceir dadansoddiad manwl o’r data – yn feintiol ac yn ansoddol – sy’n ychwanegu at ein gwybodaeth o dafodieithoedd y Gymraeg, ynghyd â’n helpu i ddeall sut y mae ffactorau cymdeithasol yn dylanwadu ar ddewis iaith siaradwyr unigol.
Translated title of the contribution | Linguistic variation amongst Welsh speakers in Treorchy at the end of the seventies |
---|---|
Original language | Welsh |
Pages (from-to) | 9-44 |
Journal | Gwerddon |
Issue number | 7 |
Publication status | Published - 26 Sept 2011 |