TY - JOUR
T1 - 'Ar Wasgar ar Hyd y Fro'
T2 - Arbrawf mewn darllen rhyngdysgyblaethol
AU - Chapman, T.
AU - Sills-Jones, Dafydd
N1 - An article that accompanies the video exhibition 'Pwy Yw T.H.?', in the form of a dialogue in which the co-investigators discuss the methodological and disciplinary gap between them, and how this project sought to bridge that gap.
PY - 2011/12/30
Y1 - 2011/12/30
N2 - Yn ystod haf 2010, fel rhan o brosiect gan Dr T. Robin Chapman a Dr Dafydd Sills- Jones, holwyd Cymry o bob cenhedlaeth a chefndir am gerddi T. H. Parry-Williams, yn y Llyfrgell Genedlaethol ac ar faes yr Eisteddfod. Y fformat oedd gofyn i bawb ddewis cerdd, ei darllen ar goedd, ac egluro wedyn pam y’i dewiswyd mewn cyfweliad penagored. Y bwriad oedd ymchwilio i statws cyfredol cerddi T.H. Parry-Williams, drwy ddadansoddi gwahanol ddarlleniadau yn ôl rhethreg a pherfformiad. Er na cheisiwyd sampl gynrychioliadol wyddonol, llwyddwyd i ddenu darllenwyr o’r ddau ryw, o wahanol rannau o Gymru, ac o bob oed rhwng yr ugeiniau cynnar ac wedi ymddeol.
Roedd disgwyl i’r prosiect godi cwestiynau ynglŷn â derbyniad cerddi T. H. Parry-Williams ymysg y cyhoedd a gymerodd ran yn yr arbrawf. Pwy fyddai’n dewis pa gerdd? Sut byddai perfformiadau gwahanol o’r un gerdd yn goleuo gwahaniaethau daearyddol, neu rhwng cenedlaethau? Beth fyddai’r berthynas rhwng perfformiadau a’r rhesymau a’r straeon a gododd yn y cyfweliadau? Yn ogystal, roedd cwestiynau methodolegol i’w datrys ar draws gagendor rhyngddisgyblaethol. Sut byddai technegau clyweledol a llenyddol yn cyd-fynd? Sut byddai modd dadansoddi’r darlleniadau, heb ddilyn y trywyddau deongliadol arferol?
Cynhaliwyd arddangosfa o’r cyfweliadau ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn ar ffurf cyfres o sgriniau fideo yn dangos y cyfweliadau hyn yn gyfochrog a chyfamserol (gweler Sills-Jones, 2010a). Er bod y prosiect yn perthyn i ddau draddodiad dadansoddol tebyg, sef dadansoddi llenyddiaeth, a dadansoddi ffilm, roedd yr arddangosfa yn eu hasio drwy drydydd traddodiad, a amlygwyd yng ngweithiau celf fideo megis gosodiadau clyweledol ‘Forty Part Motet’ (Janet Cardiff, 2001), a ‘Videos Transamericas’ (Juan Downey, 1976). Roedd y modd arddangosol/dadansoddol hwn felly’n her i’r ddau ymchwilydd, ac yn siwrnai ddyfeisgar i barth methodolegol newydd.
Er bod yr ymchwilwyr yn gytûn ynglŷn â chwestiwn ymchwil sylfaenol y prosiect, sef ceisio asesu lle T.H. yn y diwylliant Cymraeg bymtheng mlynedd ar hugain a rhagor wedi ei farw, daeth yn amlwg wrth iddynt gydweithio eu bod yn gwneud hynny ar sail cysyniadau tra gwahanol am arwyddocâd y dulliau a ddefnyddiwyd a’r canlyniadau a gaed. Mae cefndir Robin Chapman mewn llenyddiaeth Gymraeg ddiweddar. Mae gan Dafydd Sills-Jones brofiad o weithio ym maes cynhyrchu ffilmiau dogfen, ac mae’m ymddiddori mewn agweddau perfformiadol ar gynyrchiadau o’r fath.
Yr hyn sy’n dilyn yw epilog lle y defnyddir tir cyffredin y cywaith i esbonio eu dulliau wrth ei gilydd – ac i’w hunain. Y gobaith yw y bydd yn fodd nid yn unig iddynt ddweud rhywfaint am ein dwy ddisgyblaeth, ond y bydd yn ffordd i archwilio’r tyndra (creadigol) mewn cydweithio rhyngddisgyblaethol yn fwy cyffredinol.
AB - Yn ystod haf 2010, fel rhan o brosiect gan Dr T. Robin Chapman a Dr Dafydd Sills- Jones, holwyd Cymry o bob cenhedlaeth a chefndir am gerddi T. H. Parry-Williams, yn y Llyfrgell Genedlaethol ac ar faes yr Eisteddfod. Y fformat oedd gofyn i bawb ddewis cerdd, ei darllen ar goedd, ac egluro wedyn pam y’i dewiswyd mewn cyfweliad penagored. Y bwriad oedd ymchwilio i statws cyfredol cerddi T.H. Parry-Williams, drwy ddadansoddi gwahanol ddarlleniadau yn ôl rhethreg a pherfformiad. Er na cheisiwyd sampl gynrychioliadol wyddonol, llwyddwyd i ddenu darllenwyr o’r ddau ryw, o wahanol rannau o Gymru, ac o bob oed rhwng yr ugeiniau cynnar ac wedi ymddeol.
Roedd disgwyl i’r prosiect godi cwestiynau ynglŷn â derbyniad cerddi T. H. Parry-Williams ymysg y cyhoedd a gymerodd ran yn yr arbrawf. Pwy fyddai’n dewis pa gerdd? Sut byddai perfformiadau gwahanol o’r un gerdd yn goleuo gwahaniaethau daearyddol, neu rhwng cenedlaethau? Beth fyddai’r berthynas rhwng perfformiadau a’r rhesymau a’r straeon a gododd yn y cyfweliadau? Yn ogystal, roedd cwestiynau methodolegol i’w datrys ar draws gagendor rhyngddisgyblaethol. Sut byddai technegau clyweledol a llenyddol yn cyd-fynd? Sut byddai modd dadansoddi’r darlleniadau, heb ddilyn y trywyddau deongliadol arferol?
Cynhaliwyd arddangosfa o’r cyfweliadau ym mis Rhagfyr yr un flwyddyn ar ffurf cyfres o sgriniau fideo yn dangos y cyfweliadau hyn yn gyfochrog a chyfamserol (gweler Sills-Jones, 2010a). Er bod y prosiect yn perthyn i ddau draddodiad dadansoddol tebyg, sef dadansoddi llenyddiaeth, a dadansoddi ffilm, roedd yr arddangosfa yn eu hasio drwy drydydd traddodiad, a amlygwyd yng ngweithiau celf fideo megis gosodiadau clyweledol ‘Forty Part Motet’ (Janet Cardiff, 2001), a ‘Videos Transamericas’ (Juan Downey, 1976). Roedd y modd arddangosol/dadansoddol hwn felly’n her i’r ddau ymchwilydd, ac yn siwrnai ddyfeisgar i barth methodolegol newydd.
Er bod yr ymchwilwyr yn gytûn ynglŷn â chwestiwn ymchwil sylfaenol y prosiect, sef ceisio asesu lle T.H. yn y diwylliant Cymraeg bymtheng mlynedd ar hugain a rhagor wedi ei farw, daeth yn amlwg wrth iddynt gydweithio eu bod yn gwneud hynny ar sail cysyniadau tra gwahanol am arwyddocâd y dulliau a ddefnyddiwyd a’r canlyniadau a gaed. Mae cefndir Robin Chapman mewn llenyddiaeth Gymraeg ddiweddar. Mae gan Dafydd Sills-Jones brofiad o weithio ym maes cynhyrchu ffilmiau dogfen, ac mae’m ymddiddori mewn agweddau perfformiadol ar gynyrchiadau o’r fath.
Yr hyn sy’n dilyn yw epilog lle y defnyddir tir cyffredin y cywaith i esbonio eu dulliau wrth ei gilydd – ac i’w hunain. Y gobaith yw y bydd yn fodd nid yn unig iddynt ddweud rhywfaint am ein dwy ddisgyblaeth, ond y bydd yn ffordd i archwilio’r tyndra (creadigol) mewn cydweithio rhyngddisgyblaethol yn fwy cyffredinol.
UR - http://hdl.handle.net/2160/34172
M3 - Erthygl
VL - 9
JO - Gwerddon
JF - Gwerddon
ER -