Beth yw'r Ots Gennyf fi am Gymru? Astudiaeth o Allfudiaeth a Dyheadau Pobl Ifanc o’r Broydd Cymraeg

Lowri Cunnington Wynn

Research output: Contribution to journalArticlepeer-review

69 Downloads (Pure)

Abstract

Mae’r erthygl hon yn ystyried allfudiaeth pobl ifanc o’r broydd Cymraeg o safbwynt eu dyheadau a’u gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae’r ymchwil gwreiddiol yn seiliedig ar waith Jones (2010) a’i ganfyddiad o ddadansoddi ystadegau cyfrifiadau bod pobl a anwyd tu allan i Gymru oddeutu bedair gwaith yn fwy tebygol o fudo allan o Gymru nag yw pobl ifanc a anwyd yma, er yr ymddengys eu bod yn integreiddio’n llawn i’r cymdeithasau hynny. Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar sampl o pobl ifanc 15-18 oed a 19-25 oed, sydd naill ai wedi eu geni tu allan i’r broydd neu yn hanu o deuluoedd ymfudol. Ymddengys fod y teulu a’r teulu estynedig, diwylliant a chenedligrwydd, ystyriaethau ieithyddol a rhwydweithiau cymdeithasol yn ffactorau sydd yn cyfrannu at ddewisiadau pobl ifanc i aros neu peidio. Canolbwyntir ar ddwy ardal sef Tregaron a Blaenau Ffestiniog ac yn benodol, ystyrir sut mae nodweddion yr ardaloedd eu hunain yn dylanwadu ar ddewisiadau’r pobl ifanc ar gyfer y dyfodol.
Original languageWelsh
Article number13
Pages (from-to)43-63
Number of pages21
JournalGwerddon
VolumeN/A
Issue number28
Publication statusPublished - 31 Mar 2019

Cite this