Abstract
Responsible translation: Esther, Saunders Lewis, and Phillip Polack
Yn y papur gogleisiol hwn, byddaf yn gofyn cwestiynau ynghylch yr egwyddor cyffredinol o gyfieithu a/neu drosi trwy drafodaeth gymharol o ymatebion creadigol gwahanol gan Saunders Lewis, ar y naill law, a Salvador Esprui a Philip Polack, ar y llall, i’r un ysbrydoliaeth llenyddol, gwreiddiol sef hanes Beiblaidd y frenhines Esther. Yn Williams Pantycelyn, myfyria Saunders dros gyfieithu Taith y Pererin, John Bunyan, i’r Gymraeg gan ddadlau na fu erioed, ‘yr un gyfrol mwy anghymreig ei natur a’i naws’. Yn fwy na hynny, gresynna y gallai darllen y fath gyfrol andwyo ‘tymer a meddwl’ ei gyd-ddynion. Cwyd ei sylwadau crafog gwestiynau ynghylch natur ac oblygiadau cyfieithu yng nghyd-destun ymgyrchoedd cenedlaethol, cynhaliol sy’n ffocysu ar gynnal a chadw mores cenedlaethol o bob math, gan gynnwys iaith a diwylliant.
Wrth fwrw ati i gyfieithu gwaith gwreiddiol Esprui, Primera Història d’Esther, i’r Saesneg, mae Polack yn ad-leoli’r digwydd i Gymru er mwyn cyflwyno, ‘important considerations concerning minority communities’ i gyd-destun Prydeinig. Siawns nad dyma gyfieithu llesol yn ôl ffon fesur Bunyaniadd Saunders a’r union math o gyfeithu adferol y dylem ei hybu fel cenedlaetholwyr diwyllianol cyfrifol? Ysywaeth, peth cwbwl wahanol a wna Saunders ei hun wrth ganoli ei fersiwn iaith Gymraeg yntau o Esther ar y, ‘syniad fod amgyffred cariad o reidrwydd yn symud merch neu ŵr y tu hwnt i ystyriaethau dynol’.
Pa agwedd ar y profiad cynhenid Cymreig sydd yma? Onid ydyw Saunders yma yn ‘ysgrifennu yn groes i raen ei gynulleidfa’? Os nad ydyw yn driw i’w weledigaeth gyfieithu fe’i hun, beth yn union fyddai’n gyfarwyddyd cyfrifol i gyfieithwyr sy’n cymryd obygiadau eu gweithgarwch llenyddol o ddifri yng nghyd-destun ehangach rhaglen wleidyddol o gynnal a chadw cymunedau ieithyddol a diwylliannol ledled y byd yn yr unfed ganrif ar hugain? Diben y papur hwn yw gweld a oes modd i drafodaeth o Esther, Saunders yng nghyd-destun cymharol cyfieithiad Polack o Primera Història d’Esther gan Espriu, gynnig ateb posibl i’r cwestiwn hanfodol, i ba raddau y mae, ac yn wir, y dylai unrhyw fath o gyfieithu fod yn gyfrifol?

Translated title of the contribution | Responsible translation: Salvador Esprui, Primera Història d’Esther and Esther, Saunders Lewis |
---|---|
Original language | Welsh |
Pages (from-to) | 147- 163 |
Number of pages | 17 |
Journal | Llên Cymru |
Volume | 41 |
Issue number | 1 |
Early online date | 16 Jun 2018 |
DOIs | |
Publication status | Published - 01 Oct 2018 |
Keywords
- cyfieithu, perthnasedd, Saunders LEwis, Jacques Derrida, Phillip Polack, Catalan.