Abstract
Bwriad yr erthygl hon yw ystyried rhai o’r ffactorau mwyaf allweddol a fu ar waith ym meysydd polisi Addysg a’r Gymraeg yn ystod y pum mlynedd ar hugain o dan sylw. Bydd yr erthygl yn dadansoddi’r cyd-destun datblygu polisi ynghyd â chyflwyno data, gan ganolbwyntio ar addysg statudol, ers datganoli pwerau i Gymru. Ystyrir y berthynas rhwng portffolio’r Gymraeg a phortffolio Addysg ar y lefel genedlaethol fel y cawsant eu dyrannu gan Brif Weinidogion Cymru oddi ar 1999. Yn ogystal, rhoddir sylw i’r gwaith o ddatblygu strategaethau yn y meysydd hyn, wrth gydnabod pwysigrwydd addysg ym maes polisi a chynllunio iaith. Ni fwriedir cynnig dadansoddiad critigol o’r holl ddogfennaeth strategol a gyhoeddwyd yn ystod y chwarter canrif, eithr cyfeirir at ddetholiad o’r meysydd a’r themâu a flaenoriaethwyd ar gyfer datblygu polisi a strategaeth ym maes addysg Gymraeg. Yn nghyd-destun y meysydd uchod, archwilir y datblygiad – neu’r diffyg datblygiad – yng Nghymru dros y cyfnod mewn cymhariaeth â’r hyn a ddigwyddodd yng Nghymuned Awtonomaidd Gwlad y Basg yn ystod yr un cyfnod. Yn olaf, tafolir hyd a lled Bil y Gymraeg ac Addysg, gan ystyried ai drwy gyfrwng y Bil hwn y bydd modd cyrchu’r taflwybr angenrheidiol i gyrraedd at dargedau strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr (Llywodraeth Cymru, 2017a).
| Original language | Welsh |
|---|---|
| Pages (from-to) | 75-93 |
| Number of pages | 18 |
| Journal | Cylchgrawn Addysg Cymru | Wales Journal of Education |
| Volume | 26 |
| Issue number | 2 |
| DOIs | |
| Publication status | Published - 29 Nov 2024 |
Cite this
- APA
- Author
- BIBTEX
- Harvard
- Standard
- RIS
- Vancouver