Dychmygu Iaith

Research output: Book/ReportBook

Abstract

‘Beth yw iaith?’ Bu’r cwestiwn yn bwnc trafod maith ymhlith athronwyr, gwyddonwyr, addysgwyr a chymdeithasegwyr. Mewn ymgais i fwrw goleuni newydd ar y cwestiwn, try’r gyfrol hon at feirdd o Gymru a phedwar ban, gan holi ‘sut y maen nhw wedi dychmygu iaith?’ Cyfieithir cerddi sy'n cwmpasu esiamplau o ieithoedd dan fygythiad ochr yn ochr â rhai prif ffrwd a'r drafodaeth arnynt yn cynnig sail i astudiaeth gymharol. Yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant Gwasg Prifysgol Cymru, mae’r llyfr, drwy gysylltu llenyddiaeth Cymru a thramor, yn amlygu rhai o amcanion gwreiddiol y Wasg.
Original languageWelsh
Place of PublicationCaerdydd
PublisherGwasg Prifysgol Cymru | University of Wales Press
Number of pages200
VolumeDychmygu Iaith
Edition1af
ISBN (Electronic)9781786839213, 9781786839206
ISBN (Print)9781786839190
Publication statusPublished - 07 Aug 2022

Cite this