Dylanwad y Saesneg ar iaith Plant mewn Addysg Gymraeg?

Delyth Jones

Research output: Contribution to journalArticlepeer-review

Abstract

Yn y papur hwn, tynnir sylw at rai nghreifftiau o nodweddion penodol mewn iaith plant nad ydynt yn siarad Cymraeg yn y cartref ac sy'n mynychu ysgolion Cymraeg. Ceisir esbonio rhai o'r nodweddion hyn drwy gyfeirio at brosesau trosglwyddiad a symleiddio. Dadleuir nad y Saesneg yn unig sydd wrth wraidd rhai nodweddion, megis diffyg treigladau a chenedl, yn iaith y plant ond, yn hytrach, adlewyrcha'r nodweddion hyn brosesau symleiddio a gorgyffredinoli ar waith. Dangosir bod cynyddu dealltwriaeth darpar athrawon o'r prosesau hyn yn bwysig wrth iddynt geisio gwella agweddau ar iaith y plant, a disgrifir rhai modelau a ddefnyddir mewn cyd-destunau ieithoedd lleiafrifol rhyngwladol i hyfforddi athrawon ar gyfer y fath sefyllfa.
Original languageWelsh
Pages (from-to)103-111
JournalCylchgrawn Addysg Cymru | Wales Journal of Education
Volume9
Issue number1
Publication statusPublished - 2000

Cite this