TY - JOUR
T1 - Gweithio tuag at ddiagnosis o alluoedd llythrennedd plant dwyieithog
T2 - Rhai ystyriaethau allweddol i athrawon yng Nghymru
AU - Thomas, Enlli
AU - Owen, Carla Marie
AU - Hunt, Ffion
AU - Young, Nia
AU - Dafydd, Morgan
AU - Fontaine, Lise
AU - Aldridge-Waddon, Michelle
AU - Sullivan, Kirk
AU - Lloyd-Williams, Sian
AU - Ap Gruffudd, Gwilym
AU - Caulfield, Gareth
PY - 2023/1/1
Y1 - 2023/1/1
N2 - Mae un maes sy’n peri pryder o fewn cyd-destun dwyieithog yn ymwneud â’r asesiad ‘diagnostig’ priodol o alluoedd iaith plant dwyieithog a chymhwyso eu canlyniadau asesu’n briodol mewn ymarfer. Mae anawsterau cyfathrebu ac iaith yn niferus a chymhleth, ac yn amlygu eu hunain mewn amrywiaeth o ffyrdd sy’n cael eu cofnodi i wahanol raddau drwy brofion safonedig. Mae adnoddau o’r fath ar gael yn rhwydd – yn aml mewn sawl ffurf – mewn rhai ieithoedd, megis Saesneg, ond nid ydynt ar gael mor rhwydd mewn ieithoedd eraill. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg, ac mae hyn yn peri anhawster mawr wrth geisio cynnal math penodol o asesiad o alluoedd iaith penodol. Mae’r papur hwn yn amlinellu cyflwr cyfredol adnoddau asesu diagnostig ar gyfer y Gymraeg, gan ganolbwyntio’n benodol ar fesuriadau o alluoedd llythrennedd. Gan fanteisio ar dystiolaeth ymchwil o’r cyd-destun Cymreig, rydym yn dadlau o blaid hyfforddi addysgwyr yn briodol yn y maes hwn, a thros yr angen brys i ddatblygu adnoddau sy’n benodol i iaith a chyd-destun, gyda normau siaradwyr dwyieithog perthnasol, sydd â defnydd ymarferol yn yr ystafell ddosbarth, i sicrhau diagnosis a chefnogaeth deg a pherthnasol i bob plentyn sy’n cael ei addysgu yng Nghymru.
AB - Mae un maes sy’n peri pryder o fewn cyd-destun dwyieithog yn ymwneud â’r asesiad ‘diagnostig’ priodol o alluoedd iaith plant dwyieithog a chymhwyso eu canlyniadau asesu’n briodol mewn ymarfer. Mae anawsterau cyfathrebu ac iaith yn niferus a chymhleth, ac yn amlygu eu hunain mewn amrywiaeth o ffyrdd sy’n cael eu cofnodi i wahanol raddau drwy brofion safonedig. Mae adnoddau o’r fath ar gael yn rhwydd – yn aml mewn sawl ffurf – mewn rhai ieithoedd, megis Saesneg, ond nid ydynt ar gael mor rhwydd mewn ieithoedd eraill. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos ieithoedd lleiafrifol fel y Gymraeg, ac mae hyn yn peri anhawster mawr wrth geisio cynnal math penodol o asesiad o alluoedd iaith penodol. Mae’r papur hwn yn amlinellu cyflwr cyfredol adnoddau asesu diagnostig ar gyfer y Gymraeg, gan ganolbwyntio’n benodol ar fesuriadau o alluoedd llythrennedd. Gan fanteisio ar dystiolaeth ymchwil o’r cyd-destun Cymreig, rydym yn dadlau o blaid hyfforddi addysgwyr yn briodol yn y maes hwn, a thros yr angen brys i ddatblygu adnoddau sy’n benodol i iaith a chyd-destun, gyda normau siaradwyr dwyieithog perthnasol, sydd â defnydd ymarferol yn yr ystafell ddosbarth, i sicrhau diagnosis a chefnogaeth deg a pherthnasol i bob plentyn sy’n cael ei addysgu yng Nghymru.
KW - asesiad iaith plant
KW - cymraeg
KW - dwyieithog
KW - iaith leiafrifol
KW - addysg ddwyieithog
KW - anawsterau llythrennedd
U2 - 10.16922/wje.24.2.4cym
DO - 10.16922/wje.24.2.4cym
M3 - Erthygl
SN - 2059-3708
VL - 24
JO - Cylchgrawn Addysg Cymru | Wales Journal of Education
JF - Cylchgrawn Addysg Cymru | Wales Journal of Education
IS - 2
ER -