Abstract
Dyma’r disgrifiad cynhwysfawr cyntaf un o Hen Gymraeg (iaith y 9fed ganrif hyd ddechrau’r ddeuddegfed) i ymddangos yn yr iaith Gymraeg.
Mae’n addasiad (gan yr awdur ei hunan) o Gramadeg Hen Gymraeg, Alexander Falileyev, a gyhoeddwyd yn Rwsieg yn 2002, ac yn Ffrangeg yn 2008. Yn ogystal â throsi’r gwaith i’r Gymraeg, mae Dr Falileyev wedi’i addasu ar gyfer cynulleidfa Gymraeg, ac wedi ymgorffori ffrwyth yr ymchwil diweddaraf ar y testunau hyn (peth ohono eto i’w gyhoeddi). Mae hyn yn golygu y bydd o ddiddordeb i ysgolheigion profiadol yn ogystal â myfyrwyr a lleygwyr. Mae’n cynnwys disgrifiadau manwl o’r testunau hysbys, gyda llyfryddiaeth lawn, penodau ar ffonoleg, gramadeg a chystrawen yr iaith, a detholiad o destunau golygedig gyda nodiadau cynhwysfawr a geirfa. Mae’r llyfr hwn yn rhoi cyfle, am y tro cyntaf, i’r Cymry ddod i adnabod rhai o’r enghreifftiau cynharaf hysbys o destunau yn eu hiaith.

Original language | Welsh |
---|---|
Publisher | Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
Number of pages | 52 |
ISBN (Electronic) | 978-1-9106995-8-4 |
Publication status | Published - 2016 |