TY - JOUR
T1 - ‘Nid yw wedi’i fwriadu i gael ei asesu yn y ffordd rydyn ni’n asesu’
T2 - Ailfeddwl am asesu ar gyfer cymhwyster yng nghyddestun gweithredu’r Cwricwlwm i Gymru
AU - Titley, Elizabeth
AU - Davies, Andrew James
AU - Atherton, Stephen
N1 - Publisher Copyright:
© 2020 British Educational Research Association
PY - 2020/5/11
Y1 - 2020/5/11
N2 - Mae’r papur hwn yn adrodd am bersbectifau athrawon a dysgwyr ar y ffordd y mae asesu a diwygio’n dylanwadu ar arferion ac ymddygiadau addysgegol. Cynhaliwyd yr ymchwil yng nghyd‐destun diwygio polisi, mewn cyfnod pan oedd y manylebau diwygiedig ar gyfer TGAU yng Nghymru wedi cael eu gweithredu, a phan oedd dysgwyr yn paratoi ar gyfer eu hasesiadau; ond hefyd yn ystod cyfnod y dadlau ynghylch datblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru, sydd wedi mabwysiadu safbwynt gwahanol a gwrthgyferbyniol ar asesu o’i gymharu â’r rhagdybiaethau a oedd yn sail i’r diwygiadau i gymwysterau TGAU yng Nghymru a weithredwyd o 2015. Felly mae’r data hyn yn cynnig mewnwelediadau unigryw i’r dibenion a chyfyngiadau mewn dwy system wrthgyferbyniol iawn mewn cyfnod o newid sylweddol, sy’n cynnig ffyrdd o feddwl am y cwricwlwm presennol a’r arferion asesu ar ei gyfer, yn ogystal â dadansoddiad amcanol o’r modd y byddai’r egwyddorion sy’n sail i’r cwricwlwm newydd yn gallu herio’r rhagdybiaethau a chonfensiynau presennol hyn. Mae canfyddiadau’n awgrymu bod y system y mae athrawon a dysgwyr ynddi ar hyn o bryd yn un wedi’i seilio ar asesu sy’n ysgogi arferion perfformiadol mewn addysgeg ac yn cael ei rheoli gan atebolrwydd allanol; a bod yr arferion hyn yn groes i’r egwyddorion asesu sydd wedi’u cyfleu yn Dyfodol Llwyddiannus. O ganlyniad i hyn, roedd athrawon yn yr astudiaeth hon wedi mynegi ansicrwydd ynghylch y posibilrwydd o gysoni asesu at ddibenion ardystio TGAU ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru.
AB - Mae’r papur hwn yn adrodd am bersbectifau athrawon a dysgwyr ar y ffordd y mae asesu a diwygio’n dylanwadu ar arferion ac ymddygiadau addysgegol. Cynhaliwyd yr ymchwil yng nghyd‐destun diwygio polisi, mewn cyfnod pan oedd y manylebau diwygiedig ar gyfer TGAU yng Nghymru wedi cael eu gweithredu, a phan oedd dysgwyr yn paratoi ar gyfer eu hasesiadau; ond hefyd yn ystod cyfnod y dadlau ynghylch datblygu’r cwricwlwm newydd i Gymru, sydd wedi mabwysiadu safbwynt gwahanol a gwrthgyferbyniol ar asesu o’i gymharu â’r rhagdybiaethau a oedd yn sail i’r diwygiadau i gymwysterau TGAU yng Nghymru a weithredwyd o 2015. Felly mae’r data hyn yn cynnig mewnwelediadau unigryw i’r dibenion a chyfyngiadau mewn dwy system wrthgyferbyniol iawn mewn cyfnod o newid sylweddol, sy’n cynnig ffyrdd o feddwl am y cwricwlwm presennol a’r arferion asesu ar ei gyfer, yn ogystal â dadansoddiad amcanol o’r modd y byddai’r egwyddorion sy’n sail i’r cwricwlwm newydd yn gallu herio’r rhagdybiaethau a chonfensiynau presennol hyn. Mae canfyddiadau’n awgrymu bod y system y mae athrawon a dysgwyr ynddi ar hyn o bryd yn un wedi’i seilio ar asesu sy’n ysgogi arferion perfformiadol mewn addysgeg ac yn cael ei rheoli gan atebolrwydd allanol; a bod yr arferion hyn yn groes i’r egwyddorion asesu sydd wedi’u cyfleu yn Dyfodol Llwyddiannus. O ganlyniad i hyn, roedd athrawon yn yr astudiaeth hon wedi mynegi ansicrwydd ynghylch y posibilrwydd o gysoni asesu at ddibenion ardystio TGAU ag egwyddorion y Cwricwlwm i Gymru.
UR - http://www.scopus.com/inward/record.url?scp=85084479118&partnerID=8YFLogxK
U2 - 10.1002/curj.53
DO - 10.1002/curj.53
M3 - Erthygl
SN - 0958-5176
VL - 31
SP - e133-e147
JO - Curriculum Journal
JF - Curriculum Journal
IS - 2
ER -