Abstract
Mae’r papur briffio hwn yn crynhoi ymchwil ddiweddar sydd yn gwerthuso i ba raddau y mae ystyriaeth i’r Gymraeg – yn fwy penodol, ystyriaeth i’r angen i gefnogi a chynnal ardaloedd sydd â dwyster uchel o siaradwyr Cymraeg – wedi ei hintegreiddio yn y broses o lunio mentrau datblygu economaidd Cymreig allweddol. Cynhaliwyd yr ymchwil yn rhan o raglen waith tendr ymchwil 18-mis lle bu ymchwilwyr o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cydweithio â Wavehill er mwyn adolygu a gwerthuso gwaith rhaglen ARFOR II.
| Original language | Welsh |
|---|---|
| Publisher | Prifysgol Aberystwyth | Aberystwyth University |
| Publication status | Published - Feb 2025 |