Pwy Yw T.H.? A 12 simultaneous video screen installation.

Translated title of the contribution: Who Is T.H.?

Dafydd Sills-Jones, Robin Chapman (Other)

Research output: Non-textual formExhibition

Abstract

Brif gwestiwn ymchwil:
Sut mae personoliaeth lenyddol T.H. Parry-Williams yn cael ei chyfyngu yn y Gymru gyfoes? (How is T.H. Parry-Williams's literary personality mediated in contemporary Welsh culture?)

Cefndir:
Yng nghwrs yr ugeinfed ganrif daeth ysgrifau a barddoniaeth T.H. Parry-Williams (1887-1-75) yn rhan annatod o'r canon llenyddol. Synnir yn draddodiadol amdano fel tad Moderniaeth a 'poesie cerebrale' Gymraeg, chwedl Saunders Lewis. Dau gwestiwn cysylltiedig a chanolog yr astudiaeth hon yw sut y mae Cymru, bymtheg mlynedd ar hugain wedi marw Parry-Williams, mewn cyfnod ol-gynulliadol, ol-Gristnogol ac ol-ol-fodernaidd, yn ei gymathu yn y naratif cenedlaethol? A sut mae ei gerddi, yn fwyaf neilltuol, yn cael eu dychmygu' a'u delweddu?

Methodoleg:
Mewn tair canolfan sydd a chysylltiad neilltuol a Parry-Williams (Eryri, Aberystwyth a Maes yr Eisteddfod Genedlaethol), gwahoddir ei ddarllenwyr i berfformio un gerdd o'i waith o'u dewis eu hunain a son am ei arwyddocad. Y bwriad yw creu archif o darlleniadau a chyfweliadau. Ategir y cyfweliadau hyn gan wybodaeth ffeithiol am y darllenwyr (oedran, ardal, gwybodaeth o'r Gymraeg ayb).

Dadansoddiad:
Defnyddir yr archif hon i ddosbarthu ymatebion. A yw ei waith, er enghraofft, yn cyflawni swyddogaeth therapiwtig? A yw'n gysylltiedig a rhywbeth neilltuol yn hanes y darllenydd? A yw'n cynrychiolo math arbennig o Gymreictod? Ar ben hyn, a yw'r profiad o berfformio'r gerdd yn newid natur yr ymateb iddi?

Canlyniadau:
1. Creu cronfa ddata a dehongliad ohoni a fydd yn ddrych i seiliau estheteg Cymru yn 2010.

2. Defnyddio 1 ychod fel man cychwyn i ddarllediad teledu neu ffilm.
Translated title of the contributionWho Is T.H.?
Original languageWelsh
Place of Publication'The Officer's Club' Exhibition Space, Aberystwyth
PublisherPrifysgol Aberystwyth | Aberystwyth University
Media of outputDVD & Physical Portfolio
Publication statusPublished - 15 Dec 2010

Fingerprint

Dive into the research topics of 'Who Is T.H.? A 12 simultaneous video screen installation.'. Together they form a unique fingerprint.

Cite this