Abstract
Yn yr erthygl hon, dadansoddir datrysiadau dichonadwy i’r broblem geometrig o rannu silindr yn dair rhan â’r un cyfaint. Darganfyddir y datrysiadau yng nghyd-destun cyflwr egnïol isaf ewyn hylifol sych. Defnyddir y meddalwedd efelychu rhifiadol Surface Evolver er mwyn enrhifo’r holl ddatrysiadau a chyfrifo’r arwynebedd ym mhob achos. Darganfyddir y datrysiad arwynebedd lleiaf ar gyfer holl werthoedd cymhareb agwedd y silindr, sef hyd ei radiws wedi’i rannu â’i uchder. Dangosir mai pedwar datrysiad optimaidd sydd i’r broblem ar gyfer holl werthoedd y gymhareb agwedd. Rhoddir cyfwng ar gyfer cymhareb agwedd y silindr ar gyfer pob un o’r datrysiadau optimaidd.
| Original language | Welsh |
|---|---|
| Pages (from-to) | 30-43 |
| Number of pages | 14 |
| Journal | Gwerddon |
| Issue number | 20 |
| Early online date | 02 Oct 2015 |
| DOIs | |
| Publication status | Published - 02 Oct 2015 |