Siarad iaith yr aelwyd pan fo’r aelwyd yn anfforddiadwy

Research output: Contribution to journalArticlepeer-review

Abstract

Yn gynyddol, mae’r mater o dai fforddiadwy wedi ennill sylw yn y wasg, a chan y llywodraeth.[1] Wrth i’r Undeb Ewropeaidd ehangu a chreu marchnadoedd newydd ar gyfer tai, daw pryderon ynghylch prisiau tai yn gwestiwn sydd â pherthnasedd ledled Ewrop. Amlygir y pryderon hyn o sawl cyfeiriad. Mewn dinasoedd, sail y pryderon yw nad yw gweithwyr allweddol, yn y sectorau iechyd, addysg a’r gwasanaethau argyfwng yn gallu fforddio byw yn ardal eu gweithle.[2] Mewn ardaloedd gwledig, lle mae’r gost o brynu tŷ wedi cynyddu’n gyflymach nag a welwyd mewn ardaloedd trefol,[3] ceir sawl dimensiwn i’r pryderon ynghylch tai anfforddiadwy, gan gynnwys effeithiau pryniant tai fel tai haf a thai gwyliau ar y gymuned, ac effeithiau diweithdra a gwaith tymhorol ar allu pobl i fforddio tai. Mewn ardaloedd lle mae iaith a diwylliant yr ardal yn fregus, ceir elfen arall i’r cwestiwn o dai fforddiadwy, gan fod analluedd pobl ifainc a theuluoedd i aros ym mro eu magwraeth yn cael effaith andwyol ar ddyfodol yr iaith a’r diwylliant hynny. Dyma yw’r pryder wrth gwrs, yng nghyd-destun y Fro Gymraeg.[4] Sut gellir meithrin iaith yr aelwyd, lle mae’r gost o brynu aelwyd ymhell y tu hwnt i’r hyn sydd yn fforddiadwy? Amcan yr erthygl hon felly yw i ystyried beth sydd wedi achosi prisiau tai i fod yn anfforddiadwy, mesur llwyddiant yr atebion cyfredol ac i ystyried sut i sicrhau prisiau tai sydd yn fforddiadwy ac amddiffyn iaith ar yr un pryd.
Original languageWelsh
Pages (from-to)71-93
Number of pages23
JournalGwerddon
Volume3
Publication statusPublished - 01 May 2008

Cite this