Skip to main navigation Skip to search Skip to main content

Y Bwytäwr Pechod

Translated title of the contribution: The Sin Eater

Research output: Non-textual form › Performance

Abstract

Prosiect dwy flynedd o hyd yw hwn sy’n cynnal defod hynafol ar ei newydd wedd.
Cofnodwyd yr arfer o gyflogi rhywun i fwyta pechodau’r ymadawiedig ar ddiwedd yr 17eg ganrif. Gorwedddai’r corff mewn ystafell cyn ei angladd a darn o fara ar ei wyneb neu ei frest. Wedyn deuai bwytäwr pechod ato a bwyta’r tamaid bara. Y gred oedd y byddai’r bwytäwr yn cymryd pechod’r marw arno’i hun.

Mae’r prosiect ymchwil hwn yn cyflwyno’r arfer o’r newydd, un ar gyfer y byw yn hytrach na’r marw. Rwy’n cyfarfod â’r sawl sydd am fod yn rhan o’r ddefod mewn man priodol. Maent yn cymryd bara, a sibrwd eu pechodau iddo - neu rhyw faich fynnent ei waredu - ac rwy’n ei fwyta yn y man a’r lle.

O fewn 24 awr byddaf wedi treulio’r bara. Fe gasglaf y solets a’u gosod mewn compostwr. Trwy hyn mae’r drwg yn y cach yn diflannu gan adael gwrtaith gloyw glân ac fe gymer y broses hwn flwyddyn fel bod y gwrtaith yn ddiogel i’w ddefnyddio ar gyfer tyfu bwyd.

Caiff y compost ei sgwario ar dir sydd gennyf, ei adael ac wedyn eu hau â gwenith. Wedi i’r cnwd dyfu caiff ei fedi a’i falu’n flawd. O’r blawd fe bobir torth.

Rhyw flwyddyn wedi’r cyfarfod cyntaf byddaf yn cwrdd eto â’r sawl sibrydodd eu pechod. Y tro hwn, fi fydd yn sibrwd fy mhechodau i’r bara bobwyd o’u pechodau nhw, a nhw fydd yn eu bwyta. Ac felly mae’r cylch yn cau.

The project appeared at Eisteddfod y Garreg Las, the National Eisteddfod, which took place during the first week of August 2026. It was part of Y Lle Celf’s non-competitive programming (this is the arts, sculpture and craft pavilion) and was by invitation. Eddie had a three-day residency which feature dY Bwytäwr and new work, devised in the month preceding and during Eisteddfod week in response to the pavilion’s exhibition.

Daily audiences at the Eisteddfod amounted to 19,000 and a large proportion of its audience for the week passed through the Lle Celf, which is free to enter and attracts a wide festival audience.

Y Bwytäwr Pechod/The Sin Eater is a performance event in which the audience as participants is essential. The project is now on its way and has had a dozen audiences, some being groups and others individuals. They have taken place in a variety of settings: a theatre foyer (Mwldan, in Aberteifi), in a Halloween evening event attended by 300 people; a theatre studio space (Chapter Arts, in Caerdydd), for 150; two village halls for two separate groups of Merched y Wawr, by invitation, for a total of 60; an individual in an office; one in a car park; and another in a shared flat kitchen.
These audiences add to the impact that the research has, as it is amplified by its participants.


Translated title of the contributionThe Sin Eater
Original languageWelsh
Publication statusPublished - 2026

Fingerprint

Dive into the research topics of 'The Sin Eater'. Together they form a unique fingerprint.

Cite this