Y Gors: Archwilio’r ffin rhwng awduraeth a chyfranogiad yn y ffilm ddogfen

Translated title of the contribution: The Bog: Examining the boundary between authorialism and contribution in documentary ffilm

Dafydd Sills-Jones, Anne Marie Carty

Research output: Contribution to journalArticlepeer-review

Abstract

Mae’r traethawd yma cyflwyno y ffilm ‘Y Gors’ (2016) fel darn o ymchwil fel ymarfer, yn ôl y diffiniadau a ddatblygwyd trwy rhaglen PARIP (2001-2005), a thrwy gwaith Robin Nelson (Nelson, 2006). Mae’n addasu ffurf cyflwyniadol JMP Screenworks o ran ffurf y traethawd, sydd i fod i gyflwyno cefndir, cwestiynau ymchwil, methodolegau a chanlyniadau y gwaith heb darfu ar y gwaith ei hun fel brif swmp yr ymchwil. Mae enghraifft dda o’r fath yma o gyflwyniad i’w weld yma:

http://screenworks.org.uk/archive/volume-5/underground

Yr hyn sy’n ddiddorol, ac yn hollol bwysig, am y fath yma o gyflwyniad yw bod adolygiad y beirniaid i’w weld yn ogystal o dan y gwaith ymchwil. Y gobaith yw bod mabwysiadu’r fath fodd cyflwyniadol ar Gwerddon/Y Porth am ysgogi mwy o waith o’r math yn Gymraeg.

Er bod Screenworks yn pennu uchafswm o 2000 i fynd gyda’ gwaith, rwy’n awgrymu ddylai’r darn hon fod yn gyfanswm o rhwng 3000 a 5000, er mwyn rhoi y gofod angenrheidiol i esbonio cyd-destun a method mewn parth arloesol yn y Gymraeg.

Mae’r gwaith yn tarddu o grŵp ymchwil newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth – Ymarfer Sgrîn Aber – sy’n gweithredu ac yn hyrwyddo’r modd yma o ymchwil ymarferol cyfryngol.
Translated title of the contributionThe Bog: Examining the boundary between authorialism and contribution in documentary ffilm
Original languageWelsh
Pages (from-to)6-19
Number of pages14
JournalGwerddon
Issue number27
Publication statusPublished - 31 Oct 2018

Fingerprint

Dive into the research topics of 'The Bog: Examining the boundary between authorialism and contribution in documentary ffilm'. Together they form a unique fingerprint.

Cite this