Abstract
Mae’r traethawd yn trafod newyddion lleol Ceredigion, ac yn arbennig ddeunydd tra lleol er mwyn gweld sut y medrir eu cynnwys ar safleoedd a meicrosafleoedd amlblatfform dan adain cwmni newyddion proffesiynol sef Golwg360, adain ar-lein cwmni Golwg Cyf. Holir sut y gallai hynny gyfoethogi bywyd ac economi cymunedau gwledig yng ngorllewin Cymru, a chynnal y Gymraeg fel cyfrwng byw a chyfoes mewn oes o gyfathrebu digidol. Gosodir hyn yng nghyd-destun ehangach newyddion lleol a newyddiaduraeth yn gyffredinol ynghyd â datblygiad ystod o ddyfeisiau technolegol. Tynnir ar gyfnod o brofiad newyddiadurol gyda Golwg360 yn Llanbedr Pont Steffan ac ar waith ymarferol mewn gweithdai a fu’n braenaru’r tir ar gyfer sefydlu gwefan Clonc360. Bu hyn, ynghyd ag ymchwil yn y gymuned ‒ gyda busnesau, Clybiau Ffermwyr Ifainc, papurau bro, disgyblion ysgol, a grwpiau ac unigolion eraill ‒ yn sail i asesu effaith y chwyldro digidolyn yr ardal, ac i archwilio’r potensial i godi ymwybyddiaeth am werth y cyfryngau
newydd, a’r budd masnachol a diwylliannol a allai ddeillio ohonynt
Date of Award | 25 Jan 2016 |
---|---|
Original language | Welsh |
Awarding Institution |
|
Sponsors | Knowledge Economy Skills Scholarships |
Supervisor | Marged Haycock (Supervisor) & Bleddyn Huws (Supervisor) |