Arfau yn yr Hengerdd a Cherddi Beirdd y Tywysogion

  • Jennifer Penelope Day

Student thesis: Doctoral ThesisDoctor of Philosophy

Abstract

Mae‟r traethawd hwn yn dadansoddi‟r cyfeiriadau at arfau yng ngherddi‟r beirdd a ganai i dywysogion Cymreig y ddeuddegfed ganrif a‟r drydedd ganrif ar ddeg („cerddi Beirdd y Tywysogion‟) ac mewn cerddi eraill o‟r cyfnod hyd tua 1300 nad ydynt yn perthyn i‟r corpws cydnabyddedig hwn („yr Hengerdd‟).
Yn ogystal â chyflwyno‟r corpora hyn, mae‟r bennod gyntaf yn trafod defnydd y beirdd o arfau at amryw ddibenion llenyddol, ynghyd â‟u hymdriniaeth â rhyfel yn fwy cyffredinol, y dystiolaeth eu bod hwythau weithiau‟n ymladd wrth ochr eu noddwyr, a‟u hymateb i ddylanwadau estron. Trafodir hefyd ymdriniaethau eraill â llenyddiaeth mewn perthynas â hanes ac archeoleg, cyn troi yn yr ail bennod at grynhoi‟r dystiolaeth am yr offer a‟r dulliau brwydro go-iawn a allasai fod yn adnabyddus i‟r beirdd neu i‟w cyndeidiau. Defnyddir yr wybodaeth hon yn y drydedd bennod wrth ddadansoddi cyfeiriadau‟r beirdd. Canolbwyntir yn gyntaf ar ffurf yr arf ac ar ddulliau brwydro, cyn troi at agweddau mwy llenyddol. Cedwir tan y bedwaredd bennod drafodaethau am y gwahaniaethau a‟r cyffelybiaethau rhwng yr Hengerdd a cherddi Beirdd y Tywysogion, ac am berthynas „arfau‟r beirdd‟ â realiti. Tynnir sylw at nifer o gyfeiriadau yn „Y Gododdin‟ at wrthrychau anacronistig neu dywyll, ac fe drafodir ymateb Beirdd y Tywysogion i ddatblygiadau newydd, yn enwedig o ran ffurf ac addurn tarianau a dulliau marchogfilwyr o frwydro â gwaywffyn. Trafodir y pethau hyn mewn perthynas â chwestiynau ehangach o ran ymateb y beirdd a‟r tywysogion (ac awduron neu addaswyr chwedlau) i herodraeth, „sifalri‟ a ffiwdaliaeth.
Cynhwysir dau Atodiad, y cyntaf yn rhestru cyfeiriadau‟r beirdd at arfau, a‟r ail yn cynnwys ymdriniaeth â chyfleoliadau geiriol (yn ymwneud â gwaywffyn); ynghyd â thablau sy‟n dangos dosbarthiad geiriau am arfau, a nifer o ddelweddau sy‟n arddangos peth o‟r dystiolaeth ddarluniadol a drafodir yn yr ail bennod.
Date of Award07 May 2010
Original languageWelsh
Awarding Institution
  • Aberystwyth University
SupervisorMarged Haycock (Supervisor) & Bleddyn Huws (Supervisor)

Cite this

'