Arolwg o’r newidiadau llenyddol yng Nghymru wedi 1945 trwy lygaid Bobi Jones

  • Sioned Wyn Huws

Student thesis: Master's ThesisMaster of Philosophy

Abstract

Bwriad yr astudiaeth achos hon yw rhoi mewnwelediad i rai o’r prif newidiadau llenyddol yng Nghymru yn dilyn yr Ail Ryfel Byd trwy lygaid y bardd a’r beirniad llenyddol Bobi Jones. Ceisir dangos y gellir yn deg ddeall cyfnod y pumdegau trwyddo. Ef yw bardd mwyaf cynhyrchiol y cyfnod, ac mae ei waith, fe ddadleuir, yn cwmpasu ac yn crisialu’r hyn a geir yng ngwaith ei gyfoeswyr .
Rhennir y traethawd yn ddwy bennod. Rhydd y gyntaf drosolwg gyffredinol o’r 1950au. Agorir trwy ystyried dau fudiad llenyddol a ddarfu i bob pwrpas yn y cyfnod: modernwyr y don gyntaf (a gynrychiolir yma gan T. H. Parry-Williams) ar y naill law, ac ar y llall y canu telynegol neu Ramantaidd, a’r cysyniad cysylltiedig o Gymru a fodolai cyn yr Ail Ryfel Byd, ac a welwyd yn bennaf yng ngwaith Iorwerth C. Peate. Eir ymlaen i ystyried sut y tanseiliwyd y cysyniad hwnnw trwy ganolbwyntio ar astudiaethau’r cymdeithasegydd Alwyn D. Rees, newidiadau technolegol ac economaidd y cyfnod, heb anghofio ychwaith gynnyrch llenyddol Bobi Jones a Chylch Cadwgan. Eir ati yn ogystal i osod llenyddiaeth Gymraeg y ddegawd o fewn cyd-destun cenedlaethol, a dadleuir bod arbrofion celfyddydol y 1950au yn rhan o fudiad ehangach yn y byd Saesneg ei iaith, yng ngwaith yr Angry Young Men yn Lloegr a’r Beat Poets yn yr Unol Daleithiau.
Ymdrinia’r ail bennod â chymhellion Bobi Jones dros gyfansoddi. Ymchwilir i’w gefndir a’i fagwraeth er mwyn gweld ym mha fodd y dylanwadodd y blynyddoedd ar aelwyd Saesneg ei hiaith yng nghanol prysurdeb dinesig Caerdydd ar ei natur a sut y pennodd brif themâu ei gerddi. Rhoddir cryn sylw hefyd i’r wyrth anhygoel fod Bobi Jones wedi llwyddo o gwbl i ddarganfod y Gymraeg a holl drysor ei threftadaeth.
Yng nghwrs y traethawd, ceisir ateb sawl cwestiwn a gyfyd o’r ymchwil, gan gynnwys:
• Beth oedd asgwrn y gynnen rhwng y Telynegwyr a’r Modernwyr ar ddechrau’r pumdegau? A phwy a lwyddodd i greu’r darlun mwyaf cywir o Gymru ar garreg hanner ffordd yr ugeinfed ganrif?
• I ba raddau’r oedd y ffenomen o hiraeth yn llyffetheirio barddoniaeth y cyfnod? A pham y ceisiodd beirdd fel Bobi Jones ymbellhau oddi wrth y fath thema?
• A oedd y newidiadau a welwyd yn unigryw ac yn gyfyngedig i Gymru, ynteu a oedd y cwbl yn rhan o symudiad rhyngwladol a welwyd mewn gwledydd ac ieithoedd eraill?
• I ba raddau’r oedd sefyllfaoedd gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol y cyfnod cythryblus yn dilyn yr Ail Ryfel Byd yn dylanwadu ar farddoniaeth Gymraeg y cyfnod?
Dadleuwyd bod y 1950au yn gyfnod heb ‘ffigur llywodraethol’ i’w ddiffinio. Cynigir Bobi Jones fel ymgeisydd credadwy yma
Date of Award2014
Original languageWelsh
Awarding Institution
  • Aberystwyth University
SupervisorTheodore Chapman (Supervisor)

Cite this

'