Astudiaeth ar Draweffaith Canolfannau Cymraeg
: Cloriannu cryfder polisi Llywodraeth Cymru i sefydlu Canolfannau Cymraeg, mewn cymhariaeth â Chanolfannau Cymraeg cymunedol

  • Manon Elin James

Student thesis: Master's ThesisMaster of Philosophy

Abstract

Mae’r traethawd hwn yn archwilio effeithiolrwydd y Canolfannau Cymraeg a sefydlwyd â grantiau o gronfeydd Buddsoddi Cyfalaf Bwrw Mlaen Llywodraeth Cymru rhwng 2014 a 2016, o’u cymharu â’r Canolfannau Cymraeg cymunedol a fodolai eisoes. Eir hefyd i’r afael â’r dadleuon y maent yn eu cymell ynghylch cynllunio ieithyddol, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, ac agweddau ar ddwyieithrwydd. Yn ogystal â chraffu’n fanwl ar bum Canolfan Gymraeg yn unigol, a chloriannu eu gwaith, ymdrinnir â’r amryw o ddadleuon o blaid ac yn erbyn y cysyniad o Ganolfannau Cymraeg yn gyffredinol. Yn benodol, trafodir manteision ac anfanteision gofodau Cymraeg penodedig, ynghyd â’r ddadl eu bod yn creu ‘getoau.’ Cloir y traethawd ag argymhellion sy’n cynnig datrysiadau i’r Llywodraeth ynghylch sut i gefnogi’r Canolfannau Cymraeg a chanolfannau cymunedol Cymraeg yn y dyfodol.
Date of Award2018
Original languageWelsh
Awarding Institution
  • Aberystwyth University
SupervisorBleddyn Huws (Supervisor) & Rhianedd Jewell (Supervisor)

Cite this

'