Astudiaeth gymharol o'r camau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ceredigion

  • Patrick Joseph Carlin

Student thesis: Master's ThesisMaster of Economic and Social Studies

Abstract

Ymgais i ddisgrifio a dadansoddi ymdrechion mewn dau awdurdod unedol yng Nghymru i hyrwyddo'r defnydd mewnol o'r Gymraeg mewn gweinyddiaeth gyhoeddus rhwng 1973 hyd y presennol fydd hanfod y traethawd hir hwn, ynghyd â chynnig fframwaith rhesymu dros gyfreithloni'r ymdrechion hyn fydd yn seiliedig ar safonau ac offerynnau Ewropeaidd a rhyngwladol.

Tri phrif nod sydd i'r traethawd. Yn gyntaf, drwy ymdriniaeth o safonau normatif ac offerynnau cyfreithiol rwymol rhyngwladol, gobeithiaf ddangos pam bod yr ymdrechion hyn i gyfreithloni'r iaith leiafrifol yn parhau hyd heddiw i gael eu tanseilio'n gysyniadol. Bydd yr ymdriniaeth hon ynghylch cyfreithlonedd yn arwain at yr ail nod sef manylu ar y berthynas rhwng gwleidyddiaeth plaid a byd llai disglair allbynnau polisi ynghylch hybu'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ceredigion. Bydd yn manylu'n benodol ar benderfyniadau ac ymrwymiadau gwleidyddol lleol, neu'r diffyg ohonynt, sydd wedi effeithio ar y defnydd o'r Gymraeg fel cyfrwng gweinyddiad mewnol y ddau awdurdod unedol hyn. Er mwyn creu sylfaen empirig i ddadansoddi'r penderfyniadau ac ymrwymiadau hyn, fe gynhaliwyd deg cyfweliad lled-strwythuredig i gasglu data ansoddol a meintiol yn y ddau awdurdod unedol.

Yn gysylltiedig â'r nod hwn felly, ymdrechaf i esbonio pam, er gwaethaf y llwyddiant ymddangosiadol ysgubol i sicrhau shifft ieithyddol yn y defnydd o iaith yn un o'r awdurdodau hyn sef Cyngor Gwynedd, nad yw'r camau hyn wedi datblygu'n feincnod ar gyfer mannau eraill yng Nghymru a thu hwnt, gyda'r canlyniad anochel na dderbyniodd fawr sylw o du llunwyr polisi na chwaith gan academyddion, gan daflu o'r herwydd amheuaeth ar gyfreithlonedd a hygrededd y broses o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg mewn gweinyddiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

Bydd yr ystyriaethau a amlygir yn y ddau nod uchod yn arwain at drydydd sef dod i gasgliad ynghylch a yw'r defnydd o'r naill iaith yn sefyllfa o fudd anghyfartal (zero-sum game) sy'n nacáu'r defnydd ystyrlon o'r llall mewn cyd-destunau ieithyddol penodol.

Rhennir y traethawd hir yn chwe phennod. Bydd yr ail bennod yn amlinellu'r cefndir, a'r amwysedd, ynghylch hawliau siaradwyr ieithoedd lleiafrifol. Fe osodir yr hawliau hyn mewn cyd-destun Ewropeaidd a rhyngwladol gan yna daflu goleuni ar y diffyg cytundeb ynghylch sut y dylid diffinio'r hawliau hyn a beth yw goblygiadau'r fath ddiffyg cytundeb ar gyfer cyfreithloni'r defnydd o'r iaith lai ei defnydd. Fe geir hefyd ymdriniaeth ar gynaladwyedd dwyieithrwydd, dwyieithedd (diglossia), tiriogaeth a chraidd parhaol (critical mass) fydd yn greiddiol i'r ymchwiliad a welir ym Mhennod 4 a 5.

Rhydd Pennod 3 gyflwyniad i'r fframwaith empirig a ddefnyddiwyd, gan drafod rhesymeg a methodoleg y cyfweliadau. Ym Mhennod 4 a 5, fe ddadansoddir y data empirig a gafwyd mewn cyfweliadau ag aelodau etholedig a swyddogion y ddau awdurdod unedol. Yn y ddwy bennod hyn, fe fyddaf yn craffu ar sut mae trefniadaeth yr awdurdod yn rhoi'r Gymraeg ar waith yn fewnol ynghyd â dadansoddiad o'r graddau y mae hyn yn llwyddo. Yn y ddwy bennod hyn fe gymherir o fewn pob awdurdod i weld a oes offerynnau polisi a gweithredu penodol lle y bu/ceir cytundeb ac anghytundeb barn, nid yn unig ymhlith y swyddogion ond hefyd o blith swyddogion a gwleidyddion, gan dynnu sylw at y rhesymeg dros hyn. Yn ogystal, bydd Pennod 4 a 5 yn ceisio creu pontydd cysyniadol rhwng y data empirig a gasglwyd a'r sylfeini theoretig a ddatblygwyd yn y bennod gyntaf. Gan y byddaf yn defnyddio Cyngor Gwynedd fel meincnod, bydd Pennod 5 hefyd yn cynnwys cymhariaeth rhwng y ddau awdurdod, a hynny er mwyn dadansoddi'r polisïau a'r dulliau gwahanol a arddelwyd ym mhob achos i weld a gafwyd llwyddiant sydd yn briodol i bob awdurdod, gan awgrymu ble y gallai arferion da yn y naill a'r llall groesbeillio ei gilydd.

Bydd y casgliad yn manylu ar ddwy thema greiddiol sy'n deillio o ganfyddiadau'r astudiaeth gymharol cyn trafod arwyddocâd y themâu hyn yng nghyd-destun tri phrif nod y traethawd hi
Date of Award2004
Original languageEnglish
Awarding Institution
  • Aberystwyth University

Cite this

'