Amcan yr astudiaeth hon yw archwilio i amrywiadau ffonolegol dwy ardal benodol yng nghanolbarth Cymru, sef cyffiniau Harlech a Bro Dysynni. Yn gyntaf, ceisir gosod y gwaith hwn yng nghyd-destun astudiaethau tafodieithegol a sosioieithyddol a gyflawnwyd eisoes yng Nghymru a thu hwnt. Eir ati wedyn i ddisgrifio systemau ffonolegol y ddwy ardal am y tro cyntaf erioed. Arwain hyn yn naturiol at ganolbwynt yr astudiaeth, sef dadansoddiadau meintiol manwl o bedair nodwedd ffonolegol benodol sy’n gysylltiedig â chanolbarth Cymru. Bydd canlyniadau’r traethawd hwn yn taflu goleuni newydd ar y gwahanol amrywiadau a geir yn y canolbarth, ac ar natur gymhleth ardaloedd trawsnewid. Holir hefyd i ba raddau y mae grwpiau o siaradwyr sy’n ymddangos yn debyg o safbwynt eu cefndir cymdeithasol yn unffurf yn ieithyddol. Bydd canfyddiadau’r astudiaeth hon yn berthnasol i dafodieithegwyr a sosioieithyddion fel ei gilydd.
Date of Award | 14 Nov 2013 |
---|
Original language | Welsh |
---|
Awarding Institution | |
---|
Sponsors | Arts and Humanities Research Council |
---|
Supervisor | Rhisiart Hincks (Supervisor) & Marged Haycock (Supervisor) |
---|
Astudiaeth o amrywiadau ffonolegol mewn dwy ardal yng nghanolbarth Cymru
Rees, I. W. (Author). 14 Nov 2013
Student thesis: Doctoral Thesis › Doctor of Philosophy