Astudiaeth o Ddylanwad Jonathan Edwards ar Ryddiaith William Williams o Bantycelyn

  • Joshua Luke Reynolds

Student thesis: Master's ThesisMaster of Philosophy

Abstract

Y mae’r traethawd hwn yn cynnig golwg ar ddylanwad Jonathan Edwards ar fywyd crefyddol yng Nghymru. Diben pennaf y traethawd yw cyflwyno astudiaeth o’i ddylanwad ar ryddiaith William Williams o Bantycelyn ac y mae agweddau hanesyddol, diwinyddol, a llenyddol yn fframio’r drafodaeth o bennod i bennod. O safbwynt hanesyddol, y mae rhwydweithiau lleol, cenedlaethol, a byd-eang mudiad Efengylaidd y ddeunawfed ganrif yn llinyn cyson a phwysig yn y naratif. Gyda golwg ar ddiwinyddiaeth, y mae cwestiynau a phroblemau athrawiaethol yn amlygu natur y berthynas rhwng syniadaeth Jonathan Edwards a Williams Pantycelyn. O ran damcaniaeth lenyddol, y mae’r cysyniad o drawsieithu a throsglwyddo gwybodaeth yn codi nifer o gwestiynau diddorol ynghylch prosesau creadigol Williams Pantycelyn a’i ddefnydd o waith Jonathan Edwards. Ym mhennod gyntaf y thesis, dadleuir bod Pantycelyn a’i gyd-Fethodistiaid wedi darllen gweithiau Edwards ar ddiwygiadau crefyddol, sy’n dangos ôl Edwards ar syniadaeth gynnar y Methodistiaid yng Nghymru. Yn yr ail bennod, amlinellir dylanwad Edwards ar syniadaeth Pantycelyn a thrafodir cyfatebiaethau diwinyddol rhyngddynt. Yn y drydedd bennod, dadleuir bod Llythyr Martha Philopur ac Atteb Philo-Evangelius yn dangos ôl Edwards ar feddwl a dychymyg Williams Pantycelyn
Date of Award2015
Original languageEnglish
Awarding Institution
  • Aberystwyth University
SupervisorDavid Jones (Supervisor) & Cathryn Charnell-White (Supervisor)

Cite this

'