Abstract
CrynodebEir ati yn y traethawd hwn i ddadansoddi sut y bu i dair awdures lwyddiannus ddilyn y thema cenedlaetholdeb o fewn eu gweithiau. Rhoddir sylw i waith yr awduresau canlynol, Angharad Tomos, Menna Elfyn a Meg Elis dros gyfnod o chwarter canrif.
Yn y bennod gyntaf, edrychir ar nofelau a gweithiau cynnar yr awduresau, rhwng y flwyddyn 1975 a 1980. Cyfnod pan oedd Cymdeithas yr Iaith ar ei hanterth. Gwelwn ddylanwad ac effaith y Gymdeithas yn gryf yn eu gweithiau cynnar.
Yn yr ail bennod ymdrinir â gweithiau o’r cyfnod 1981 hyd at 1991. Yn y rhan yma fe ddadansoddaf gerddi cenedlaetholgar Menna Elfyn, o’i chyfrolau, Tro’r haul arno, Mynd lawr i’r nefoedd ac Aderyn bach mewn llaw. Trafodir hefyd dair nofel gan Angharad Tomos, sef Hen fyd hurt, Yma o hyd a Si hei lwli ynghyd â stori fer Rwy’n gweld yr haul. Edrychir hefyd ar ambell i gerdd gan Meg Elis a’r gyfrol a enillodd y fedal ryddiaith yn 1985 sef Cyn daw’r gaeaf.
Eir ymlaen i’r nawdegau a throad y mileniwm yn y drydedd bennod, gan edrych ar ddwy nofel arall gan Angharad Tomos, sef, Titrwm a Wele’n gwawrio, ynghyd â dwy gyfrol gan Menna Elfyn, Eucalyptus a Cell Angel. Yma hefyd ceir dadansoddiad o gyfweliad byr a wnaed gyda Meg Elis yn ystod mis Awst 2013.
Clymir y tair awdures gan yr un themâu: cenedlaetholdeb, rhyddid, a ffeministiaeth, ac mae’r tair wedi bod yn gynhyrchiol o fewn llenyddiaeth Gymraeg ac yn weithredol dros Gymdeithas yr Iaith
Date of Award | 2014 |
---|---|
Original language | Welsh |
Awarding Institution |
|
Supervisor | Mihangel Morgan (Supervisor) |