Chwaraea hwnna, dad!
: Nodweddion hanfodol prosesau creadigol mewn theatr i gynulleidfaoedd ifanc yng nghyd-destun diwylliant ac iaith leiafrifol

  • Jeremy G. Turner

Student thesis: Doctoral ThesisDoctor of Philosophy

Abstract

Mae’r traethawd hwn yn trafod wyth sgript a ysgrifennwyd gan yr awdur ac a gyhoeddwyd ar ffurf cynyrchiadau theatr gan Gwmni Theatr Arad Goch rhwng 2012 a 2022. Cyflwynir y sgriptiau gyda’r traethawd; yn ogystal, cynhwysir dolenni i recordiadau fideo o gynyrchiadau o’r sgriptiau.
Mae’r gweithiau a drafodir mewn tair adran: sgriptiau sy’n seiliedig ar hanes a chwedl i blant 7 i 11 oed; sgriptiau a grëwyd drwy brosesau dyfeisio, i blant 3 i 7 oed; sgriptiau sy’n seiliedig ar eiriau neu syniadau plant neu bobl ifanc.
Trafodir rhai o hanfodion prosesau creadigol wrth gynhyrchu theatr i gynulleidfaoedd ifanc. Mae'r rhain yn cynnwys (i) yr angen i ymchwilio moddau plant o ymddwyn, chwarae, ryngweithio, ac ymateb i ddigwyddiadau a phobl eraill; (ii) ffyrdd amrywiol o gynnwys plant neu bobl ifanc yn y prosesau creadigol; (iii) ceisio llunio sgriptiau a chynyrchiadau llwyfan o bersbectif plant a phobl ifanc er mwyn sicrhau perthnasedd y gwaith a berfformir; (iv) ystyried plant a phobl ifanc fel cynulleidfaoedd teilwng, deallus a chanddynt ddisgwyliadau esthetig uchel, er yn wahanol i ddisgwyliadau oedolion.
Trafodir sut mae diffyg cyfyngiadau arferion a chonfensiynau ‘mynd i’r theatr’ ymhlith plant a phobl ifanc (o’u cymharu â disgwyliadau oedolion) yn galluogi artistiaid theatr i gynulleidfaoedd ifanc barhau i ymchwilio ar arloesi o ran ffurf ac arddull. Yn hyn o beth cyffelybir theatr i gynulleidfaoedd ifanc i elfennau o’r theatr arbrofol a welid ddiwedd y G20.
Mae’r traethawd yn ystyried sut mae theatr bwrpasol i gynulleidfaoedd ifanc yn cynorthwyo plant a phobl ifanc i adnabod a chydnabod eu hunaniaeth eu hunain – ar lefelau personol, cymunedol a diwylliannol. Mae hyn yn cynnwys hunaniaeth ieithyddol, ac o ddiddordeb arbennig yw’r modd mae theatr i gynulleidfaoedd ifanc mewn iaith leiafrifol yn cyfrannu at y broses o ddilysu’r iaith honno fel cyfrwng hyfyw, perthnasol a chreadigol.
Mae’r atodiadau yn cynnwys erthyglau perthnasol a rhestrau o gynyrchiadau’r ddau gwmni a unwyd ym 1989 i ffurfio Cwmni Theatr Arad Goch, sef Cwmni Cyfri Tri a Theatr Crwban, ynghyd â rhestr o holl gynyrchiadau a phrosiectau cyfranogol Cwmni Theatr Arad Goch ei hun.

Cysylltwch â’r Llyfrgell i gael mynediad at y fideos:
[email protected]
Date of Award2025
Original languageWelsh
Awarding Institution
  • Aberystwyth University
SupervisorGareth Evans (Supervisor) & Elin Royles (Supervisor)

Cite this

'