Chwilio am eiriau a chywair addas ar gyfer y Gair i Gymry’r unfed ganrif ar hugain

Student thesis: Master's ThesisMaster of Philosophy

Abstract

Am bedair canrif, bu cyfieithiad William Morgan o’r Beibl, wedi ei ddiwygio gan John Davies a Richard Parry, bron yn hollbresennol ar aelwydydd Cymru. Ym mlwyddyn dathlu pedwar can mlwyddiant y cyfieithiad cyntaf hwnnw, cyhoeddwyd cyfieithiad cwbl newydd, Y Beibl Cymraeg Newydd, er mwyn adlewyrchu’r newid a fu yn yr iaith Gymraeg a sicrhau bod yr Ysgrythur yn parhau i fod yn ddealladwy i gynulleidfa gyfoes. Yna, lai na 30 mlynedd yn ddiweddarach, cafwyd cyfieithiad cwbl newydd eto, beibl.net, mewn iaith lafar ac anffurfiol. Bwriad yr astudiaeth hon yw craffu ar y fersiynau mwyaf diwygiedig o’r cyfieithiadau hyn ac ystyried pa mor addas ydynt ar gyfer cynulleidfa’r Gymru gyfoes. Bydd hyn yn golygu craffu ar nodweddion ieithyddol y cyfieithiadau, yn ogystal ag archwilio perthynas pobl Cymru â hwy a’u gallu i’w darllen a’u deall. Trafodir canlyniadau holiadur a ddosbarthwyd rhwng Mehefin a Gorffennaf 2020 yn casglu ymatebion gan dros bedwar cant o ddarllenwyr Cymraeg o bob oed i nifer o gwestiynau perthnasol am y cyfieithiadau Cymraeg o’r Beibl er mwyn canfod pa fersiwn a sut fersiwn yw’r un mwyaf addas ar gyfer Cymry’r unfed ganrif ar hugain.
Date of Award2022
Original languageWelsh
Awarding Institution
  • Aberystwyth University
SupervisorBleddyn Huws (Supervisor) & Rhianedd Jewell (Supervisor)

Cite this

'