Abstract
Prif amcan y ddoethuriaeth yw archwilio rôl awdurdodau isranbarthol i ganfod a ydynt yn actorion o bwys wrth gynllunio’n ieithyddol yn y system ranbarthol rynglywodraethol. Mae’n cyflawni’r nod yma drwy ddau brif amcan. Yn gyntaf, dangosir bod bwlch yn y llenyddiaeth ar CI a pholisi iaith o safbwynt gweithgarwch gan lywodraeth isranbarthol. Yn y llenyddiaeth yma, tueddir o hyd i ragdybio y bydd yr haen yma o lywodraeth yn gweithredu polisïau iaith sy’n deillio o haenau eraill llywodraeth, fel arfer gan y llywodraeth ranbarthol yn achos ieithoedd anwladwriaethol tiriogaethol. Yna, mewn tair pennod empirig, dadansoddir ymdrechion gan lywodraeth isranbarthol yng Ngwlad y Basg, Catalwnia a Chymru i lunio a llywio polisïau iaith. Dangosir yn glir bod yr haen yma o lywodraeth yn ganolog i’n hymdrechion i weld yn eglurach y mannau hynny lle y bydd polisïau iaith yn cael eu creu a’u rhoi ar waith.Yn ychwanegol at wneud cyfraniad o safbwynt creu gwybodaeth newydd am weithgarwch penodol haen o lywodraeth, defnyddir y data empirig i astudio’r ymwneud rhynglywodraethol rhwng yr haen isranbarthol a’r llywodraeth ranbarthol er mwyn canfod rhagor am y berthynas rym a lefelau’r cydweithredu rhwng y ddwy haen. Dadansoddaf sut mae graddau cefnogaeth y llywodraeth ranbarthol i amcanion cyffredinol cynllunio ieithdyddol (CI) yn dylanwadu, yn cyfyngu neu’n ysbarduno gweithgarwch llywodraeth isranbarthol. Mae’r rôl y bydd pleidiau gwleidyddol rhanbarthol yn eu chwarae fel ysgogwyr a chyfryngwyr polisïau iaith ar draws y maes rhynglywodraethol yn hanfodol i deall yn well y berthynas rhwng gweithgarwch CI a wneir ar y lefel isranbarthol a rhanbarthol
Date of Award | 15 Jun 2009 |
---|---|
Original language | Welsh |
Awarding Institution |
|
Supervisor | Richard Llywelyn Wyn Jones (Supervisor) & Elin Royles (Supervisor) |