Gofodau Radical
: Cymdeithas Gymraeg Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a’r Frwydr Feunyddiol wrth Gynhyrchu Gofod Gofodol ac Amseryddol ‘Radical’ Herfeiddiol.

  • Rhodri Aled Evans

Student thesis: Doctoral ThesisDoctor of Philosophy

Abstract

Cynrychiola’r ymddeffroad cenedlaethol a fu yn Aberystwyth yn ystod cyfnod o oddeutu deng mlynedd, rhwng c.1957 hyd 1969, cyfnod arwyddocaol. Dyma gyfnod o herio natur cyffredinoliaethau y cynhyrchiad cymdeithasol awdurdodol, a thotalitaraidd, rhagdybiedig. Ymgymerodd myfyrwyr CPC Aberystwyth a phrosesau a oeddent a’r nod o wyrdroi cysyniadau cyffredinol yng nghylch ymlyniad cymdeithasol torfol wrth Brydeindod - a’i rhinweddau amlwg, a chynyddol, Eingl-Brydeinig - gan esgor, yn ei le, ymlyniad gwreiddiedig
cadarnach at rinweddau Cymreictod. Canolbwyntia’r ymchwil yma ar y ffyrdd y bu i garfan o genedlaetholwyr a oeddent ynghlwm a bywyd y Coleg ymgymryd â thrawsnewid elfennau ar ei chymdeithas er mwyn (at)gynhyrchu ymlyniad wrth rinweddau Cymreictod ymysg eu cydfyfyrwyr, a hynny mewn gwrthwynebiad i dueddiadau Eingl-Brydeinig gynyddol. Ymgymerir ag astudiaeth a gweddir elfennau o wyddor daearyddiaeth ddynol, wleidyddol, ac elfennau hanesyddol er mwyn cynhyrchu astudiaeth a chyfrannir nid yn unig i’n dealltwriaeth o’r mudiadau cymdeithasol a gwleidyddol Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn yr
1950au/1960au, a’r modd yr oeddent yn creu gofodau radical ac yn defnyddio dulliau bobdydd wrth anelu am newid trawiadol i’r modd yr oedd unigolion o fewn i’r gymuned hynny yn amgyffred a’u hunaniaeth, ond hefyd at ein dealltwriaeth ehangach ar natur cyffredinol cymdeithas myfyrwyr Cymraeg CPC Aberystwyth ar sail gwerth hanesyddol y gwaith ymchwil trwyadl a wnaethpwyd yn rhan o’r ymchwil. Er amlygu arwyddocâd y darganfyddiadau hanesyddol, yn unol â’r dadansoddiadau cysylltiedig, ymgymerir ag amlygu gwaith ac esiamplau ategol amryw er sicrhau cyfanwaith a unolir y ddau agwedd yn rhan o’i gyfraniad.
Ar sail hyn, gobeithir cyfrannu at feysydd hanes CPC, Aberystwyth, daearwleidyddiaeth hunaniaeth Gymreig, a chwmpas gwleidyddiaeth ‘beunyddiol’ yn y broses o ymrafael ynghylch cynyrchiadau hunaniaeth genedlaethol.
Date of Award2021
Original languageWelsh
Awarding Institution
  • Aberystwyth University
SupervisorRhys Dafydd Jones (Supervisor) & Rhys Jones (Supervisor)

Cite this

'