Abstract
Yn y traethawd hwn byddaf yn dadansoddi'r cyfeiriadau at ddillad, tecstiliau ac ategolion sy'n ymddangos yn llenyddiaeth ganoloesol Cymru. Y ffynonellau craidd yw'r rhyddiaith a'r farddoniaeth sydd eisoes wedi eu golygu ac yn dyddio o'r cyfnod c. 700 hyd at c. 1600.Ceir pum pennod fel a ganlyn. Yn gyntaf, y defnyddiau a'r tecstiliau a gaiff eu trafod a sut yr ymdrinnir â hwy yn y llenyddiaeth yn y cyfnod dan sylw. Canolbwyntir ar y cyfnod cyn 1100 yn yr ail bennod a thrafod y dystiolaeth lenyddol, archeolegol a darluniadol yn y cyfnod hwnnw. Yn y drydedd bennod canolbwyntir ar ddillad y tywysogion a'r uchelwyr o'r ddeuddegfed ganrif hyd at yr unfed ganrif ar bymtheg gan rannu'r bennod yn gronolegol. Yna, gwisgoedd yr arglwyddesau a'r uchelwragedd a gaiff y sylw yn y bedwaredd bennod a sut yr ymdrinnir â'u gwisgoedd yn y gwahanol destunau golygedig. Yn y bumed bennod trafodir dillad eraill yn y gymdeithas, gan rannu'r bennod yn is-benodau ar ddillad y werin, dillad galar, dillad crefyddol a dillad plant. Wedi'r penodau hyn cyflwynir enghreifftiau o'r dystiolaeth weledol ac archeolegol mewn delweddau.
Cynhwysir tri atodiad ar ddiwedd y traethawd. Mae'r cyntaf yn ychwanegiad i bennod tri ac yn drafodaeth fwy manwl am y wisg wrywaidd a oedd yn hynod boblogaidd yn ystod y bymthegfed ganrif, sef y ffaling. Yn yr ail atodiad ceir ychwanegiad i'r bennod ar wisgoedd arglwyddesau ac uchelwragedd gan drafod yn fanwl y diddordeb mewn penwisgoedd menywod. Y trydydd atodiad yw'r eirfa sy’n cynnwys termau am ddillad, tecstiliau ac ategolion ynghyd ag eglurhad a tharddiad cryno.
Date of Award | 2008 |
---|---|
Original language | Welsh |
Awarding Institution |
|
Sponsors | Arts and Humanities Research Council |
Supervisor | Marged Haycock (Supervisor) |
Keywords
- grwisgoedd
- ategolion
- llenyddiaeth
- oesoedd
- canol