Iaith y Corff yn y Chwedlau Canoloesol Cymraeg

Student thesis: Master's ThesisMaster of Philosophy

Abstract

Er bod cryn dipyn o waith ymchwil wedi ei wneud yn barod ar y chwedlau canoloesol Cymraeg gan nifer o ysgolheigion ar draws y byd, nid oes neb wedi ymchwilio i iaith y corff, ei phwysigrwydd a’i swyddogaeth yn y rhyddiaith ganoloesol Gymraeg. Sylwais yn ogystal fod y pwnc wedi cael ei olrhain yn barod yn y llenyddiaeth Ffrangeg, yn llenyddiaethau Groeg a Rhufain a hefyd yn yr iaith Saesneg, yn enwedig gwaith Chaucer. Y mae’r maes hwn yn ogystal wedi cael ei archwilio’n rhannol yn barod o safbwynt y celfyddydau megis celf a drama. Gwelais felly fod yna fwlch amlwg yma o ran astudiaethau ar iaith y corff mewn llenyddiaeth ganoloesol Gymraeg. Bwriadaf edrych yn fanwl iawn ar yr un ar ddeg o chwedlau canoloesol Cymraeg sef Y Pedair Cainc, Y Tair Rhamant, Cyfranc Lludd a Llefelys, Breudwyt Maxen Wledic, Breudwyt Ronabwy a Kulhwch ac Olwen gan chwilio am enghreifftiau gwahanol o iaith y corff yn y testunau yma.
Rwyf wedi penderfynu rhannu’r traethawd yn chwe phennod. Yn y bennod gyntaf trafodaf y gwaith theoretig yn gyffredinol ar y corff. Yn yr ail edrychaf yn benodol ar bryd a gwedd cymeriadau gan ganolbwyntio ar wallt, rhannau o’r corff sy’n cael sylw penodol a hefyd disgrifiadau o gymeriadau. Yn y drydedd bennod trafodaf y côd ymddygiad gan edrych ar sut y mae pobl yn cyfarch ei gilydd ac ymddygiad sefyllfaoedd arbennig. Yn y bedwaredd bennod rhoddaf sylw i safleoedd cymeriadau gan edrych yn benodol ar bwy sydd â’r pŵer yn y sefyllfaoedd hyn. Yna yn y bumed bennod fe drafodaf arwyddocâd edrychiadau gwahanol a hefyd y ffordd y mae cymeriadau’n ymserchu yn ei gilydd. Yn y bennod olaf rhoddaf sylw i ystumiau geiriol sydd eto’n dweud llawer wrthym am bersonoliaeth cymeriadau.
Mae’r maes hwn yn gyffrous iawn a gobeithiaf y bydd hyn yn agor drysau i eraill ddilyn yn ôl fy nhroed o safbwynt llenyddiaeth ganoloesol Gymraeg.
Date of Award2011
Original languageWelsh
Awarding Institution
  • Aberystwyth University
SupervisorMarged Haycock (Supervisor) & Ian Hughes (Supervisor)

Cite this

'