Yn y traethawd hwn rwyf yn olrhain yr ymateb cyfredol i ddramâu Saunders Lewis. Wrth edrych ar yr ymateb i’w ddramâu ac ymatebion ac ymosodiadau personol arno fel ffigwr llenyddol a gwleidyddol o bwys a dylanwad mawr, ceisiaf weld twf a datblygiad y meddwl Cymreig yn ystod yr ugeinfed ganrif. Yn ei ddramâu, lleisiodd Saunders Lewis ei weledigaeth am ei Gymru ddelfrydol, ac yn yr ymatebion iddynt gwelwn sut yr oedd Cymry’r ugeinfed ganrif yn derbyn ac yn gwrthod y delfryd hynny.
Date of Award | 2015 |
---|
Original language | Welsh |
---|
Awarding Institution | |
---|
Supervisor | T Robin Chapman (Supervisor) |
---|
‘Meddwl anghyffredin iawn…’ : Datblygiad y meddwl Cymreig yng nghyd-destun yr ymateb i ddramâu Saunders Lewis
Llwyd, C. D. (Author). 2015
Student thesis: Master's Thesis › Master of Philosophy