Abstract
Yn y traethawd hwn, edrychir ar gerddi rhyfel Cymraeg a ysgrifennwyd ac a gyhoeddwyd rhwng 1960 a 2012. Daw’r cerddi a drafodir o gyfrolau beirdd unigol, o’r cylchgrawn Barddas ac o gyfrolau’r gyfres Pigion Talwrn y Beirdd, yn bennaf, ac o’u casglu ynghyd, dangosir bod cofnodi a sylwebu ar ryfeloedd yn draddodiad sy’n parhau yn y Gymraeg.Yn y bennod gyntaf, trafodir ymddangosiad y pabi coch yn y cerddi, ei arwyddocâd a’i holl symbolaeth, cyn troi at ddelweddau natur eraill, a’r cyfeiriadau’n clymu’r cerddi diweddar â chanu rhyfel cyfnod y Rhyfel Mawr, lle’r oedd delweddaeth natur yn hawlio lle amlwg. Cerddi am y Rhyfel Byd Cyntaf, ac i raddau llai, yr Ail Ryfel Byd, yw’r cerddi a drafodir yn y bennod gyntaf.
Ymdrin â rhyfeloedd y degawdau diwethaf yn bennaf y mae cerddi’r ail bennod, ac edrychir yn benodol ar y modd y sylweba’r cyfryngau ar y rhyfeloedd hynny gan roi gwedd adloniannol ar eu hadroddiadau ar brydiau a gan bellhau’r gwyliwr oddi wrth y gyflafan. Ymdrinnir â chofnodion diriaethol o ryfel a ddarperir gan luniau’r camera, ac edrychir hefyd ar luniau haniaethol y cof. Â’r bennod rhagddi i drafod anallu dyn i gyfleu rhyfel trwy eiriau, anwybodaeth a diffyg cydymdeimlad cymdeithas fodern, a datblygiadau technoleg rhyfel.
Mae’r bennod olaf yn archwilio’r modd y Cymreigia’r beirdd y profiad o ryfel. Edrychir yn gyntaf ar y gyfeiriadaeth yn y cerddi diweddar at yr hengerdd, at chwedlau’r Mabinogi ac at gymeriad Heledd. Yna, troir at gerddi i Hedd Wyn, i’r Ysgwrn ac i’r Gadair Ddu, a chymeriad Hedd Wyn yn cynrychioli colled cenhedlaeth gyfan o Gymry. Cerddi i ryfel y Falklands/Malvinas yw’r cerddi olaf a drafodir. Fe gyfeirir yn benodol at golled y gwarchodlu Cymreig yn nhrychineb bomio’r Sir Galahad, a rhoir sylw i’r berthynas arbennig rhwng Cymru a’r Wladfa, gan gryfhau’r llinyn Cymreig
Date of Award | 2013 |
---|---|
Original language | English |
Awarding Institution |
|
Supervisor | Huw Edwards (Supervisor) |