Olion Iaith

  • Glesni Mair Edwards

Student thesis: Master's ThesisMaster of Arts

Abstract

Yn yr ymchwil perfformiadol hwn gyda help dau actor fe lwyfannais wers addysgol ar fy hanes i’n tyfu i fyny yn ddwyieithog a sut y cafodd hyn effaith arna i’n feddyliol a chorfforol. Yn y perfformiad rydw i’n trafod ychydig am hanes ieithyddol fy nheulu ar ochr fy mam a nhad cyn mynd ymlaen i ddewis rhai digwyddiadau allweddol ieithyddol fy mywyd wrth i mi dyfu i fyny. Er mwyn ceisio dangos ymgorfforiad ieithyddol o’r profiadau hyn roeddwn i’n gwisgo siwt wen ar ddiwedd pob cyfnod a chael yr actorion i beintio’r geiriau ‘Saesneg’ a ‘Cymraeg’ ar ddarnau o fy nghorff i symbylu sut effaith yr oedd y ddwy iaith yn ei gael ar wahanol adegau o fy mywyd. Fel ymchwil teimlaf fy mod i wedi gwneud perfformiad ar thema sydd yn rhan o brofiad dynol o fyw mewn cymdeithas ddwyieithog ac sydd yn berthnasol i hunaniaeth a diwylliant nifer fawr o bobl sydd yn byw yng Nghymru ac mewn gwledydd ar draws y byd. Yn yr adlewyrchiad feirniadol yma mi fyddaf yn ceisio rhoi fy meirniadaeth fy hun ar y broses o greu’r perfformiad yn ogystal â thrafod fy nylanwadau artistig a damcaniaethol er mwyn ceisio dangos bod fy mherfformiad i’n ddarn o ymchwil perfformiadol. Rydw i wedi rhannu’r traethawd i adrannau gwahanol sef:
• y syniadau cychwynnol o ddefnyddio iaith fel prif thema ar gyfer fy mherfformiad.
•y broses lle’r ydw i’n trafod hel gwybodaeth at ei gilydd i ddechrau creu’r sgript.
•y tair rhan i fy mhroses ddramateiddio sef defnydd o arddull addysgol, defnydd o’r corff a llunio’r gofod.
•y clo sydd yn cydblethu fy mhroses gwaith gan geisio gosod fy narn yn y maes perfformio.

Gweler yr atodiad ar gyfer y DVD a chopi o’r sgript gwreiddiol sydd yn cynnwys y lluniau yr oeddwn i’n eu taflunio yn y perfformiad.
Date of Award2010
Original languageWelsh
Awarding Institution
  • Aberystwyth University
SupervisorRoger Owen (Supervisor)

Cite this

'