Amcan y traethawd hwn yw cyflwyno’r ymagwedd ymddygiadol i faes polisi a chynllunio iaith. Mae’r ymagwedd ymddygiadol i bolisi eisoes wedi cael cryn ddylanwad ar ystod o feysydd polisi ledled y byd, ac yn enwedig yn y Deyrnas Gyfunol. I’r perwyl hwn, mae’r traethawd yn defnyddio’r ymdrechion polisi i adfer y Gymraeg fel enghraifft o bolisi a chynllunio iaith, gan ymchwilio i’r defnydd posib o ymagwedd ymddygiadol i bolisi yn yr ymdrechion hyn. Yn unol â ffocws polisi ymarferol y ddau faes dan sylw, defnyddir tair astudiaeth achos fel sail i ymchwil y traethawd hwn. Y tair astudiaeth achos dan sylw yw Twf, y Prosiect Cefnogi Arferion Iaith, a’r defnydd o system gofrestru ddiofyn igofrestru myfyrwyr Cymraeg eu hiaith ar ddarpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg. Ymchwiliwr i’r defnydd posib o ymagwedd ymddygiadol i'r tair ymyrraeth trwy ddefnyddio fframwaith archwiliadol sydd wedi’i gyfansoddi o dair prif thema: y model neu’r ddealltwriaeth o ymddygiad; y defnydd o arfau polisi ymddygiadol; a dulliau gwerthuso a ffyddlondeb gweithredu’r ymyraethau. Mae’r astudiaethau achos yn amlygu bod dealltwriaeth ymddygiadol gynhenid gryf yn ymhlyg yng nghynllun a gweithrediad yr ymyraethau dan sylw. Tuedda’r ddealltwriaeth hwn ddeillio o brofiad o weithio yn y maes, neu ddatblygiad yr ymyrraeth dros gyfnod o amser. Mae’r cyfeiriadau eglur i’r ymagwedd ymddygiadol i bolisi yn brin; ond, ymhle ceir cyfeiriad nid yw’r defnydd o ymagwedd ymddygiadol i bolisi yn gydnaws â’r ymagwedd honno. Cynigia’r gwaith hwn arweiniad posib i ymchwil ac ymarfer, yn y ddau faes. Yn benodol, gwelwn yr angen i osod strwythur i’r defnydd o ymagwedd ymddygiadol i bolisi yn ymdrechion i adfer y Gymraeg ac mae’r defnydd a wnaed eisoes yn cynnig gwersi penodol all arwain at fireinio’r ymagwedd ymddygiadol i bolisi.
Date of Award | 2017 |
---|
Original language | English |
---|
Awarding Institution | |
---|
Supervisor | Huw Lewis (Supervisor) & Rhys Jones (Supervisor) |
---|
Polisi Iaith Ymddygiadol?
Elias, O. H. (Author). 2017
Student thesis: Doctoral Thesis › Doctor of Philosophy