Abstract
Yn y traethawd hwn, trafodir y syniad o genedl yn 61 y dystiolaeth a geiryng ngweithiau'r cywyddwyr o ddechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg hyd at
ddiwedd oes Elizabeth, cyfnod a welodd nifer o newidladau gwleidyddol o
bwys a ddylanwadodd ar ddatblygiad y syniad hwnnw: gwrthryfel Glyndor,
Rhyfeloedd y Rhosynnau, buddugoliaeth Harri Tudur ym Mosworth a'r Deddfau
Uno. Dengys y dystiolaeth lenyddol fod gan yr uchelwriaeth Gymreig, a'r
beirdd fel cynheiliaid y drefn gymdeithasol honno, syniad pendant o Gymru
fel uned ddaearyddol, ac o'r Cymry fel hil arbennig o bobl a oedd yn
wahanol i'r Saeson.
Darlun cymysg a geir o ragfarnau'r Cymry yn y cyfnod canol - ceir nifer o
gerddi sy'n tystiolaethu i fodolaeth teimladau gwrth-Seisnig chwyrn, ac yn
mynegi casineb, drwgdybiaeth a dybead i ddial. Bryd arall, gwelir rhagfarn
tawelach a llai amlwg, wrth i'r pwyslais ddisgyn ar uchelwriaeth a
rhagoriaeth gynhenid y Cymra ar y Sais.
Trafodir y berthynas rhwng swyddogaeth ac addysg y bardd ä'r syniadau a'r
rhagfarnau a fynegir ganddo yn ei gerddi, ac olrheinir y cymhellion hynny
sy'n arwain at 'syniad o genedl', sef ymwybyddiaeth uned o bobl o
wahaniaeth neu arbenigrwydd. Ymhlith yr agweddau a fynegir sy'n
gysylltiedig ä'r syniad a genedl, trafodir brogarwch a'r ymwybyddiaeth o
ranbarth, ynghyd ä'r balchder cenedlaethol, yn yr hyn a oedd yn 'creu'
cenedl ac yn pwysleisio rhagoriaeth gymdeithasol y Cymry ar y Saeson o ran
achau, diwylliant a chrefyddolder. 0 ran perthynas y Cymry a'r Saeson,
edrychir ar y cerddi hynny sy'n portreadu bywyd y ddinas, y dref a'r
bwrdeistref, a thrafodir dychan y beirdd tuag"at. y diffyg nawdd a'r
diwylliant estron ac eilradd a gafwyd yn`y canolfannau trefol hyn. Y mae
perthynas crefydd a chenedligrwydd yn cael sylw, ynghyd ag arwyddoc2d y
syniad o nawdd sant. Y mae cefnogaeth yr uchelwriaeth i'r frenhiniaeth yn
Lloegr yn cynnwys agwedd wahanol ar genedligrwydd y Cymro yn y cyfnod dan
sylw, ac y mae'r traethawd yn edrych hefyd ar deyrngarwch y Cymry i'r
goron, a'r modd y defnyddiwyd hanes i'w gyfiawnhau.
Date of Award | 1988 |
---|---|
Original language | English |
Awarding Institution |
|
Supervisor | Morfudd Owen (Supervisor) & Bobi Jones (Supervisor) |