Rhyddfrydiaeth ac Adferiad Iaith

Student thesis: Doctoral ThesisDoctor of Philosophy

Abstract

Amcan y traethawd hwn yw ystyried sut gall egwyddorion rhyddfrydol gyfrannu at oleuo ein dealltwriaeth o foesoldeb y broses o adfer ieithoedd lleiafrifol. Eir ati i ystyried y mater hwn trwy osod dau gwestiwn ymchwil penodol. Yn gyntaf, gofynnir sut dylai rhyddfrydwyr gysyniadoli statws moesol y nod cyffredinol o adfer iaith? Yn ail, ystyrir i ba raddau y mae rhai o’r camau ymarferol a gymerir wrth geisio gwireddu nod o’r fath yn arwain at dramgwyddo egwyddorion rhyddfrydol. Rhennir y traethawd yn ddwy ran, ac fe drafodir y cyntaf o’r cwestiynau hyn yn ystod y rhan gyntaf, a’r ail gwestiwn yn ystod yr ail ran.

Yn achos y cwestiwn cyntaf, dangosir nad oes dim byd annerbyniol, o safbwynt rhyddfrydol, ynglŷn ag adferiad iaith. Ond, ar yr un pryd, gwelir na all rhyddfrydwyr gysyniadoli’r dasg fel rhywbeth sy’n hanfodol o safbwynt cyfiawnder, gan y byddai hynny’n arwain at broblemau moesol sylweddol. O ganlyniad, cesglir taw fel gweithred dderbyniol y dylid cysyniadoli adferiad iaith; un o’r amrediad eang o bethau sy’n gwbl briodol i lywodraethau rhyddfrydol-democrataidd geisio’u cyflawni pan fo hynny’n adlewyrchu casgliadau a ddaethpwyd iddynt ar sail trafodaethau democrataidd agored a theg, ond eto nid rhywbeth sy’n hanfodol o safbwynt cyfiawnder.

Yn achos yr ail gwestiwn, cydnabyddir fod rhai polisïau adferol yn camu dros drothwy’r hyn a ystyrir yn dderbyniol gan ryddfrydwyr. Fodd bynnag, dadleuir mai eithriadau’n unig yw’r rhain, a bod y mwyafrif helaeth o’r polisïau a weithredwyd wrth geisio adfer sefyllfa gwahanol ieithoedd lleiafrifol yn tueddu i gydorwedd yn gwbl gyfforddus gydag egwyddorion rhyddfrydol.
Date of Award2009
Original languageWelsh
Awarding Institution
  • Aberystwyth University
SponsorsEconomic and Social Research Council
SupervisorRichard Llywelyn Wyn Jones (Supervisor) & Anwen Elias (Supervisor)

Cite this

'