‘'Sgwennu a Chanu, Sul, Gŵyl a Gwaith’
: Golwg ar ddiwylliant llenyddol a cherddorol Dyffryn Nantlle yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif

  • Ffion Eluned Owen

Student thesis: Doctoral ThesisDoctor of Philosophy

Abstract

Astudiaeth yw hon o weithgarwch diwylliannol trigolion Dyffryn Nantlle, Arfon, yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Canolbwyntia ar gloriannu cyfraniad gwerinwyr diwylliedig a digoleg yr ardal, y rhai a fu’n cynnal y bwrlwm llenyddol a cherddorol ar lawr gwlad. Drwy gyfrwng y cymdeithasau a’r cyfarfodydd lluosog – rhai ffurfiol ac anffurfiol – gwelwn yr awydd i feithrin gwŷr a gwragedd goleuedig a chanddynt gariad at y gymdeithas a’r ardal leol, yn ogystal ag at
ddysg a diwylliant. Rhyfeddir at ddoniau a thalentau cerddorol unigolion a fagwyd mewn oes gymharol brin ei manteision addysgol, a’u brwdfrydedd a’u hymroddiad i hyrwyddo celfyddyd yn eu pentrefi. Gwelwn sut y daeth y ddrama i gydio yn nychymyg y bobl, a manylir ar chwarelwyr a gweithwyr cyffredin a ddaeth i sylw ehangach yn sgil eu perfformiadau ar lwyfannau cyngherddau a’u llwyddiannau mewn eisteddfodau bychain ar hyd a lled y wlad, yn adroddwyr, dramodwyr, cerddorion a beirdd. Clustnodir pennod yr un i drafod gwaith a
bywyd dau fardd-chwarelwr, sef Griffith Francis o Nantlle a John Charles Jones o Dal-y-sarn, y cyntaf yn gerddor yn ogystal, a’r ddau yn cynrychioli’r bywiogrwydd barddonol toreithiog a geid yn lleol ar y pryd. Tystia eu cerddi i’r modd yr oedd llenyddiaeth a barddoniaeth yn rhan naturiol o fywyd bob dydd yn Nyffryn Nantlle, a’r parch a roid i’r rhai a fyddai’n llenydda yn ystod y cyfnod. Trwy’r cyfan, rhoddir sylw dyledus i gymwynaswyr sy’n haeddu cael eu cofio
a’u gwerthfawrogi. Beth a ddaw’n amlwg yn yr astudiaeth hon yw fod yn y dyffryn chwarelyddol awch mawr am ddysg a gwybodaeth, a bod y lle yn ferw o dalentau llenyddol a cherddorol. Er mai ardal dlawd ydoedd rhwng y ddau ryfel byd, pan oedd diweithdra’n rhemp, yr oedd ansawdd ei diwylliant gwerinol yn dra chyfoethog
Date of Award2018
Original languageWelsh
Awarding Institution
  • Aberystwyth University
SupervisorBleddyn Huws (Supervisor) & T Robin Chapman (Supervisor)

Cite this

'