Yn y casgliad hwn o straeon byrion a sylwebaeth feirniadol, cyflwynir fy ngwaith ysgrifennu creadigol mewn sawl gwahanol genre ac arddull lenyddol, ynghyd â thraethodau critigol sy’n dadansoddi’r broses ysgrifennu ac yn trafod ysbrydoliaeth y darnau, a ddaw o fyd llenyddiaeth, barddoniaeth a ffilm. Darperir casgliad ar ddiwedd y traethawd i dynnu’r llinynau hyn o ysbrydoliaeth ynghyd, ac i osod trosolwg o themâu’r dilyniant hwn ac ymdrin â’r testun fel cyfanwaith. Trafodir themâu o eiddo, iaith a gwreiddiau drwy gydol y gwaith, tra’n canolbwyntio ar adrodd naratifau am gymeriadau ymylol cymdeithas drwy safbwyntiau amrywiol pobl ifanc Cymru.
| Date of Award | 2025 |
|---|
| Original language | English |
|---|
| Awarding Institution | |
|---|
| Supervisor | Eurig Salisbury (Supervisor) |
|---|
- Llenyddiaeth
- Sylwebaeth
- Straen Byrion
- Llên Meicro
Tractor i’r Tywyllwch : Casgliad o Straeon Byrion a Sylwebaeth Feirniadol
Ebbsworth, T. (Author). 2025
Student thesis: Master’s Thesis › Master of Philosophy