Abstract
Eir ati yn y traethawd hwn i ymdrin â delwedd yr aelwyd yn y nofel Gymraeg o 1960 hyd at 2008 trwy gyfrwng ymdriniaeth thematig.Yn y bennod gyntaf, amlinellir nodweddion o gefnlen gymdeithasol yr ugeinfed ganrif a oedd yn gatalyddion i’r aelwyd hanesyddol, ac i ddarlun yr aelwyd ffuglennol.
Yn yr ail bennod, edrychir ar ddarlun delfrydol yr ‘aelwyd draddodiadol Gymreig’ mewn llenyddiaeth ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Yn ail ran y bennod, ystyrir i ba raddau yr arddelir y darlun o’r ‘aelwyd draddodiadol Gymreig’ mewn testunau a gyhoeddwyd rhwng 1930 a 1960.
Yn y drydedd bennod, dechreuir ar y brif astudiaeth gan roi sylw i’r aelwyd argyfyngus. Ymdrinnir â delwedd yr aelwyd mewn nofelau a gyhoeddwyd yn ystod y chwedegau a’r saithdegau lle gwelir newidiadau cymdeithasol pellgyrhaeddol y blynyddoedd hynny ynghyd â’r chwyldro rhywiol yn gefnlen amlwg i’r nofelau.
Yn y bedwaredd bennod, eir ati i ymdrin ag aelwyd plentyndod. Gan ganolbwyntio ar nofelau lle defnyddir llif meddwl y plentyn fel naratif, dehonglir y ddelwedd a roddir o’r aelwyd gan y plentyn ei hun. Sonnir am y plentyn fel traethydd eironig wrth iddo ddatgelu gwybodaeth am yr aelwyd nad yw’n deall ei harwyddocâd.
Yn y bumed bennod, ceir ymdriniaeth gymharol ag aelwyd y wlad ac aelwyd y ddinas. Dehonglir yr aelwydydd yng ngolau traddodiad a Chymreictod ar y naill law, a modernrwydd a Seisnigrwydd ar y llall. Amlygir yr aelwyd wledig fel alltud i’r newidiadau cymdeithasol a effeithiodd ar ffyniant proffesiynol y ferch, a’r aelwyd ddinesig fel un a’u croesawodd.
Yn y chweched bennod, eir ati i ymdrin â’r aelwyd amgen (gwahanol/alternative). Ceir yma aelwyd ffuglennol sy’n gwyro oddi wrth yr hyn a ystyrir yn gonfensiwn. Caiff cysyniad traddodiadol yr aelwyd ei herio, a gofynnir: a oes rhaid wrth adeilad er mwyn creu aelwyd?
Date of Award | 07 Feb 2012 |
---|---|
Original language | English |
Awarding Institution |
|
Supervisor | Mihangel Morgan (Supervisor) & Marged Haycock (Supervisor) |