Prif fyrdwn y traethawd hwn yw olrhain y defnydd o’r ddraig mewn llenyddiaeth Gymraeg rhwng y cyfnod cynharaf posib y mae deunydd llenyddol Cymraeg wedi goroesi hyd at tua diwedd y bymthegfed ganrif. I ddechrau, trafodir yr hyn a ysgogodd yr astudiaeth ac arwain at y cwestiwn: sut y bu i’r ddraig ddod i fodoli mewn diwylliannau ar draws y byd gan ddod yn ffigur amlwg yn y diwylliant Cymreig, ffigur sy’n symbol cenedlaethol i ni erbyn heddiw? Cyn edrych ar yr enghreiffti au a’r defnydd a wnaed ohoni yn y diwylliant Cymreig, ceir braslun o’r defnydd ohoni mewn diwylliannau eraill. Y gobaith oedd y gellid gweld dylanwadau neu fenthyciadau drwy roi’r ddraig Gymreig mwyn cyd-destun byd-eang. Ceir crynodeb hefyd o’r dadleuon a’r damcaniaethau ynghylch ei tharddiad a’i bodolaeth. Cyffyrddir yn gryno â themâu perthnasol eraill, megis yr ymdeimlad o ofn bwystfilod yn gyffredinol, natur dychymyg yr Oesoedd Canol, ac amgyffrediad dyn o’i fodolaeth. Edrychir yn fanwl ar y defnydd o’r ddraig yng nghanu arwrol y beirdd Cymraeg cynharaf, sef Aneirin a Thaliesin. Symudir ymlaen wedyn at ganu’r Gogynfeirdd neu Feirdd y Tywysogion gan gynnig sawl enghraifft o’u cyfeiriadau hwythau ati a’u defnydd ohoni. Trafodir wedyn ryddiaith Gymraeg gan gynnig enghreifftiau o’r ddraig ym mhrif weithiau’r Oesoedd Canol megis y De Excidio Britanniae gan Gildas, yr Historia Brittonum a briodolir i Nennius a’r Historia Regum Brittaniae gan Sieffre o Fynwy. Canolbwyntir yn bennaf ar chwedl Lludd a Llefel ys a hanes Gwrtheyrn trwy gyfrwng Proffwydoliaeth Myrddin. Yna daw cyfnod Beirdd yr Uchelwyr, lle gwelir newid amlwg yn eu defnydd hwy ohoni. Rhoddir yr enghreifftiau llenyddol yng nghyd-destun eu cyfnod a’r digwyddiadau gwleidyddol penodol a allai fod wedi dylanwadau ar y newid yn y defnydd o’r ddraig, neu o leiaf gynyddu’r defnydd ohoni. Crybwyllir enghreifftiau hefyd lle defnyddir y ddraig mewn testunau crefyddol.
Date of Award | 2017 |
---|
Original language | English |
---|
Awarding Institution | |
---|
Supervisor | Bleddyn Huws (Supervisor) & Simon Rodway (Supervisor) |
---|
Y Ddraig yn Nychymyg a Llenyddiaeth y Cymry c.600 - c.1500
Llywelyn, M. G. (Author). 2017
Student thesis: Master's Thesis › Master of Philosophy