Abstract
Eir ati yn y traethawd hwn i olrhain datblygiad y nofel ddomestig Gymraeg dros dair cenhedlaeth gan roi sylw i dair awdures gynrychioliadol: Moelona, Jane Edwards a Sonia Edwards. Mesurir datblygiad y ffurf trwy ddarlun cyfnewidiol yr aelwyd.Yn y bennod gyntaf, edrychir ar nofelau 1911 i 1939 o waith Moelona. Mewn cyfnod pan oedd byd y ferch o fewn muriau'r aelwyd, darlunnir yr aelwyd yn noddfa a chynhaliaeth i aelodau'r teulu gyda'r fam yn 'frenhines' arni. Seilir nofelau Moelona ar agosatrwydd teuluol a phwysleisir dylanwad y cartref ar hunaniaeth. Mae ganddi genadwri: y mae'r fam yn arwres yn ei byd ei hun.
Yn yr ail bennod ymdrinnir â nofelau Jane Edwards o 1962 i 1987. Y mae gorwelion y ferch yn ehangach wrth iddi blannu gwreiddiau yn y byd proffesiynol. Nid yw'r aelwyd yn gynhaliaeth mwyach, ond yn llyffethair. Yn wyneb 'argyfwng gwacter ystyr', symuda ffocws y ferch oddi ar yr aelwyd tuag at y corff. Ymdrinnir yn ddwys â godineb ac ysfa rywiol. Y mae'r chwyldro rhywiol yn ei anterth, ac wrth sôn am themâu tabŵ megis atalgenhedlu ac erthyliad, gwelir Jane Edwards yn tynnu’r nofel Gymraeg i dir newydd.
Eir ymlaen i'r nawdegau a throad y mileniwm yn y drydedd bennod, gan edrych ar nofelau Sonia Edwards o 1994 i 2003. Y mae'r 'domestig' bellach yn cofleidio'r 'poblogaidd': daw'r aelwyd yn gartref i ddigwyddiadau anghyffredin. Ymestynnir ar linyn 'corfforol' Jane Edwards gan ymdrin ag effeithiau godineb ar unigolion ac aelwydydd. Rhoddir sylw i atgofion am aelwyd ansefydlog plentyndod sy'n achosi ansicrwydd emosiynol y cymeriadau wedi iddynt dyfu'n oedolion.
Clymir y tair cenhedlaeth gan yr un hanfodion: y ffocws ar y ferch, ei meddyliau a'i theimladau, gyda'r aelwyd yn gefnlen barhaus i'r cyfan
Date of Award | 2008 |
---|---|
Original language | Welsh |
Awarding Institution |
|
Supervisor | T Robin Chapman (Supervisor) |