Gwelodd y chwedegau dwf aruthrol mewn cyfansoddi caneuon Cymraeg poblogaidd, ac fe’u darllenwyd yn draddodiadol, gan Hefin Wyn, Sarah Hill, Craig Owen Jones a Pwyll ap Siôn, er enghraifft, o safbwynt hanesyddiaethol, sef fel cynnyrch cyfnod neilltuol yn hanes Cymru. Ond a ellir meddwl synio amdanynt hefyd fel llenyddiaeth? Yn y traethawd hwn, eir ati i ystyried geiriau caneuon gan bum artist rhwng 1965 a 2015 – Dafydd Iwan, Geraint Jarman, Meic Stevens, Steve Eaves a David R. Edwards. Cyfosodwyd dau ddull beirniadol gwahanol i wneud hyn. Darllenir y caneuon o safbwynt ffurfiolaidd yng nghorff y drafodaeth, a rhoddir deunydd bywgraffyddol a dyneiddiol yn y troednodiadau ac atodiadau. Yn y modd hwn, mabwysiadwyd dull mwy holistaidd o archwilio’r testunau. Yng nghorff y testun, felly, ystyrir technegau’r pum artist, ac asesir i ba raddau y mae trafod y caneuon drwy graffu ar dechneg yn dyfnhau ein dealltwriaeth ohonynt. Y gobaith yw y bydd y traethawd hwn, nid yn unig yn ehangu’r maes, ond yn achub y pump rhag crafangau’r hanesyddiaethwyr yn ogystal. Amcan gwreiddiol y traethawd oedd dangos bod darllen geiriau caneuon yn ffurfiolaidd yn ddull priodol a dilys. Ond o geisio eu darllen fel hyn, amlygwyd diffygion a chyfyngiadau yn y broses. Anodd oedd cyfyngu’r drafodaeth i’r testun yn hytrach nag i ystyriaethau eraill megis cyfnod, amgylchiadau gwleidyddol ac ideolegol. Felly, rhaid oedd cyflwyno troednodiadau. Deuir i’r casgliad fod geiriau caneuon yn osgoi llawer o’r hyn y mae cerdd draddodiadol yn ei wneud, ac y gall hynny arwain at atgyfnerthu geiriau’r gân neu eu gwanhau. Mewn gwirionedd, gall llenyddiaeth fod yn llenyddiaeth os yw pobl yn barnu hynny.
‘Ym marddoniaeth caniateir popeth’: darllen geiriau caneuon Cymraeg poblogaidd yr hanner can mlynedd diwethaf fel llenyddiaeth.
Tudur, M. (Author). 2019
Student thesis: Doctoral Thesis › Doctor of Philosophy